Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i arwain y broses o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol drwy atebion arloesol sy’n cael effaith ac yn ymateb i heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 yn tynnu sylw at sut mae cydweithio strategol a chymorth pwrpasol yn cyflymu arloesi sy’n achub bywydau, yn mynd i’r afael ag anghenion hanfodol y system, yn gwella ansawdd gofal, ac yn hybu twf economaidd ledled Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddatblygu prosiectau a rhaglenni arloesol sy’n ail-lunio gofal iechyd. Mae ystadegau newydd yn tanlinellu enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddenu buddsoddiad sylweddol a sbarduno gwelliannau amlwg wrth ddarparu gofal. Drwy ddod â thechnolegau a dulliau arloesol i’r rheng flaen, rydym yn mynd i’r afael â heriau mwyaf dybryd y wlad, yn gwella gwasanaethau, yn gwella canlyniadau i gleifion, ac yn cyfrannu at dwf economaidd ac yn creu swyddi.
Uchafbwyntiau Effaith 2023-24:
- 51,566 o gleifion wedi cael mynediad at ofal iechyd arloesol
- £25.4m o gynigion cyllido wedi’u cyflwyno
- 2,290 yn llai o ymweliadau clinigol
- 147 o asesiadau arloesi wedi’u cynnal
- 58 o swyddi wedi cael eu creu
- £5.5m o fuddsoddiad wedi’i sicrhau
- £1.7m o gyllid wedi’i sicrhau
- £3.1m o Werth Ychwanegol Gros (GVA) wedi’i ddarparu i’r economi
- £1.5m o werth wedi’i gynhyrchu ar gyfer y system iechyd a gofal
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn tynnu sylw at sut rydym yn gweithredu fel cysylltydd hanfodol ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant, gan sbarduno newid ystyrlon drwy brosiectau arloesol fel:
Prosiect QuicDNA: Cafodd y cydweithrediad hwn ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023 a’r Gwobrau Gwella Gofal Iechyd, ac mae’n chwyldroi diagnosteg canser yr ysgyfaint drwy ddefnyddio technoleg biopsi hylifol i gwtogi llwybrau diagnostig ac amseroedd trin.
Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF): Mae’r fenter hon, a lansiwyd ym mis Ebrill 2023, yn moderneiddio systemau fferylliaeth Cymru, ac mae saith cyflenwr eisoes wedi sicrhau cyllid i wella diogelwch, effeithlonrwydd a lleihau beichiau gweinyddol ar gyfer presgripsiynau.
Rhaglen Trechu Canser Llywodraeth Cymru: Mae’r rhaglen hon, a lansiwyd yn 2023, ac yn cael ei chefnogi gan Fforwm Diwydiant Canser Cymru, yn canolbwyntio ar wella canlyniadau canser ledled y wlad drwy sgrinio yn y gymuned a defnyddio adnoddau diagnostig wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial.
Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth drwy sicrhau bod arloesi wrth galon iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio’n agos gyda’r diwydiant a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal.
“Yn 2023/24, mae mwy na 51,000 o gleifion wedi elwa o’r gwaith a wnaed gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae eu gallu i weithio mewn partneriaeth wedi arwain at welliant yn y ffordd mae mentrau allweddol yn cael eu cyflawni, gan gynnwys cydlynu’r prosiect QuicDNA i ganfod canser yn gynnar, rheoli’r gwaith o gyflwyno’r Gronfa Arloesi Systemau Fferylliaeth Gymunedol, a sefydlu’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer iechyd a gofal. Mae’r ymdrechion hyn, gyda’i gilydd, yn dangos ein hymrwymiad i wella canlyniadau cleifion ar yr un pryd â sbarduno twf economaidd a chreu swyddi, gan wneud Cymru’n gyrchfan flaenllaw ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal ac yn barod i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau na welwyd eu tebyg o’r blaen.”
Dywedodd Siân Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan:
“Cafodd QuicDNA ei sefydlu yng Nghymru oherwydd gwelliannau mewn technoleg genomig, a dyma’r unig un o labordai’r GIG yn y DU sydd wedi rhoi’r prawf penodol hwn ar waith. Mae’r prosiect hwn yn dangos arweinyddiaeth ragorol drwy brosiect gwirioneddol gydweithredol rhwng y GIG, y trydydd sector a diwydiant, ac roedd cefnogaeth ac adnoddau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn allweddol yn y llwyddiant sydd wedi’i gyflawni.”
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 yn dangos y cynnydd anhygoel a wnaed gan bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant wrth iddynt fanteisio ar ein hystod o wasanaethau cymorth. Y llynedd, rwy’n falch iawn i ddweud bod dros 50,000 o bobl wedi elwa ar ddatblygiadau arloesol ym maes iechyd y cyfrannodd ein sefydliadau tuag atynt. “Gyda system o dan bwysau o’r fath, rydym yn teimlo bod ein pwrpas yn gryfach nag erioed. Rydym yn falch iawn o’r partneriaethau rydym wedi’u ffurfio, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i wneud Cymru’n lle y bydd pobl yn dewis dod iddo ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal.”
Mae’r adroddiad ar gael i’w lwytho i lawr yn llawn yma.