Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae sbarduno arloesedd i reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i fynd i’r afael â heriau allweddol ledled Cymru. Ac yn y pen draw, mae’n golygu gwella ansawdd gofal, gwneud y gorau o ddarparu gwasanaethau a sbarduno twf economaidd hanfodol a chreu swyddi.  

Operating theatre with robotics surgery

Y rôl allweddol a chwaraeir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wrth sbarduno’r trawsnewid hwn wrth iddo barhau i ddatblygu ar gyflymder sylweddol.  

Mae ystadegau diweddar o’n hasesiad effaith yn tynnu sylw at sut mae ein hymdrechion yn gwneud Cymru yn lle o ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol: 

Yn ystod 2022-23, fe wnaethom: 

Gefnogi: 

  • 262 o sefydliadau  
  • 105 o swyddi  
  • 39 o gynigion sy'n barod i'w mabwysiadu  
  • 37 o gynigion cyllido 

Sicrhau: 

  • £23.5m o gyllid  
  • £13.2m o fuddsoddiad  

Darparu: 

  • £5.9m o Werth Ychwanegol Gros 
  • £4.7m o werth i’r system  

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rôl y sefydliad fel pont ddeinamig sy’n cysylltu iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant, gan ddarparu cymorth ac arweiniad pwrpasol i hwyluso datblygiad arloesedd yng Nghymru. 

Mae’r adroddiad yn edrych ymhellach ar brosiectau dylanwadol lle rydyn ni'n helpu i gyflymu’r broses o fabwysiadu arloesedd:  

  • Cynnull partneriaid yn y lle cyntaf a chefnogi’r prosiect QuicDNA, lle mae partneriaid traws-sector yn gweithio i werthuso technoleg genomeg biopsi hylif arloesol i gyflymu’r llwybr diagnosis ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint. 
  • Sut mae cefnogi’r Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn ystod camau cyntaf wedi hwyluso twf rhyfeddol. Mae’r dechnoleg hon, sy’n creu archoll mor fach â phosib, wedi trin cannoedd o gleifion canser a hyfforddi dwsinau o staff. Ymysg y manteision mae amseroedd adfer cyflymach a dod â chyfleoedd swyddi hanfodol i Gymru. 
  • Gwaith cymorth ariannol cynhwysfawr i arloeswyr ar amrywiaeth o gyfleoedd cynigion gan gynnwys Catalydd Biofeddygol: Meddygaeth Fanwl Uwch a’r cynllun peilot Hwb Iechyd Digidol UKRI. 
  • Sganio’r gorwel a chymorth rheoli prosiect i werthuso dyfais rheoli meddyginiaeth ddigidol yn cynnwys partneriaid o’r meysydd iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Fel y nodwyd gennym yn ‘Cymru’n arloesi: Strategaeth Arloesi Cymru’ yn gynharach eleni, mae cysoni arloesedd ag anghenion ein system iechyd a gofal yn elfen hanfodol o greu Cymru iachach a mwy ffyniannus. 

“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi a chyflymu arloesedd ledled Cymru drwy amrywiaeth eang o raglenni cymorth, llwyfannau a rhwydweithiau – ac mae pob un o’r rhain yn cael eu hamlygu yn Adroddiad Effaith eleni. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; a thrwy arloesi, gallwn ni helpu i wella ansawdd gofal, gwneud y gorau o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu a chreu dyfodol gwell i gleifion a dinasyddion Cymru.” 

Dywedodd Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: 

“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Louise a gweddill tîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ein gwerthusiad rheoli meddyginiaethau digidol. Maent wedi darparu cyfoeth o wybodaeth sydd wedi ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar ein syniad cychwynnol. Mae’r gefnogaeth a’r cyfleoedd parhaus a ddarparwyd wedi sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gwasanaeth roeddem ei eisiau ar gyfer yr unigolion yn ein cymuned.” 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, y Prif Swyddog Gweithredol: 

“Yn ein chweched flwyddyn fel cysylltwr, hwylusydd a hyrwyddwr arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â’n taith i sbarduno trawsnewid ar draws y system. Mae ein hadroddiad effaith yn tynnu sylw at effaith partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant sy’n defnyddio ein hystod o wasanaethau cymorth. Ac yn y pen draw, mae’n dangos sut gallwn ni, ar y cyd, hyrwyddo arloesedd ar y rheng flaen a helpu i wella profiad cleifion, sbarduno arbedion effeithlonrwydd a chefnogi economi Cymru. 

“Diolch i’n holl bartneriaid sy’n ein helpu i wneud Cymru’n lle o ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld ble fydd ein cefnogaeth yn mynd â ni nesaf.”  

Mae’r adroddiad ar gael i’w lwytho i lawr yn llawn ar ein wefan.