Bydd Rhaglen Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn darparu llawdriniaeth robotig sy'n creu archoll mor fach â phosib i filoedd o gleifion canser ledled y wlad. Mae hyn yn golygu defnyddio breichiau robotig datblygedig iawn sy’n dal offer llawfeddygol, dan reolaeth llawfeddyg, i drin canserau colorectal, gastroberfeddol uchaf, wrolegol a gynaecolegol.
Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â byrddau iechyd ledled Cymru, y Moondance Cancer Initiative a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydariannu’r rhaglen gyda £4.2 miliwn dros dair blynedd, ochr yn ochr â £13.35 miliwn a ddarperir gan y byrddau iechyd dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae’r cwmni roboteg lawfeddygol, CMR Surgical, yn gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru i roi System Roboteg Lawfeddygol Versius ar waith mewn theatrau llawfeddygol ledled Cymru. Bydd CMR hefyd yn cefnogi ymchwil i fabwysiadu gweithdrefnau gyda chymorth roboteg ac yn darparu mynediad i’w gofrestrfa glinigol fyd-eang er mwyn deall datblygiad canlyniadau cleifion a gwella diogelwch cleifion.
I gael gwybod mwy am y rhaglen, cysylltwch â Jonathan Morgan, Rheolwr Rhaglen Cymru: Jonathan.Morgan5@wales.nhs.uk.
- Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
- Moondance Cancer Initiative
- CMR Surgical
- Llywodraeth Cymru
- GIG Cymru
Lansio’r cydweithio â CMR
Cyhoeddwyd CMR fel partner ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg sy’n rhoi System Robotig Lawfeddygol Versius ar waith
Y cleifion cyntaf yn derbyn llawdriniaeth â chymorth robot yng Nghymru fel rhan o'r rhaglen genedlaethol arloesol
Mae robotiaid llawfeddygol o'r radd flaenaf bellach yn helpu i drin cleifion â chanser y colon a'r rhefr a chanser gynaecolegol yng Nghymru fel rhan o Raglen Genedlaethol newydd yn ymwneud â Llawdriniaeth â Chymorth Robot.
Carreg filltir o ran triniaeth i gleifion
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cwblhau ei wythnos gyntaf o ddefnyddio llawdriniaethau robotig i drin cleifion canser gynaecolegol.
Cwblhau’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru
Mae’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru gan ddefnyddio robot Versius wedi digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ystadegau rhaglen hyd yn hyn
- Achosion robotig wedi'u cwblhau: 39
- Timau robotig gweithredol: 3
- Staff wedi'u hyfforddi: 34
Ystadegau rhaglen hyd yn hyn
- Achosion robotig wedi'u cwblhau: 65
- Timau robotig gweithredol: 3
- Staff wedi'u hyfforddi: 38
Ystadegau rhaglen hyd yn hyn
- 100 o achosion
- 8 tîm Llawfeddygol
- 55 staff wedi'u hyfforddi
- 140 awr o Lawdriniaeth â Chymorth Roboteg
Mae amrywiaeth o fanteision posibl i gleifion o’u cymharu â llawdriniaeth agored. O ganlyniad i lawfeddygon yn creu clwyf toriad llai ac yn cael mwy o fanylder a rheolaeth yn ystod llawdriniaeth gyda chymorth roboteg, gall cleifion dreulio llai o amser yn yr ysbyty, a chael adferiad cyflymach a dychwelyd i weithgareddau arferol yn gynt.
Ar ôl i’r rhaglen gael ei sefydlu’n llawn, ni fydd angen i gleifion yng Ngogledd Cymru deithio i Loegr mwyach i gael llawdriniaeth gyda chymorth roboteg – gan ein helpu i greu system gofal iechyd fwy cynaliadwy.
Bydd y rhaglen hefyd yn helpu i ddarparu cyfleoedd a manteision i’r tîm llawfeddygol. Bydd llawdriniaeth â chymorth roboteg yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a recriwtio i staff yng Nghymru. Gall Versius hefyd greu amgylchedd gwaith mwy ergonomig i lawfeddygon. Mae cynnal llawdriniaeth â mynediad bach iawn yn rhoi baich corfforol ar lawfeddygon a gall arwain at ymddeol yn gynnar mewn rhai achosion.
Mae Versius wedi’i gynllunio i gadw llawfeddygon yn gyfforddus am fwy o amser bob dydd drwy ganiatáu iddynt eistedd neu sefyll wrth gonsol agored, gan roi’r potensial iddynt ymestyn eu gyrfa. Gyda’i gilydd, bydd yr elfennau hyn yn cynyddu faint o lawdriniaeth robotig y gellir ei chynnig i gleifion canser ledled Cymru.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r rhaglen waith hon ers y dechrau, a oedd yn cynnwys cefnogi rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu’r Achos Cyfiawnhad Busnes Cenedlaethol, a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2022.
Bydd Rhaglen Genedlaethol Cymru yn cael ei chyflwyno i ddechrau ar draws dau Fwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Bydd pedair system Versius yn cael eu gosod i ddechrau ar draws pedwar safle ysbyty bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae disgwyl y bydd dros 1,300 o gleifion yn elwa o’r rhaglen bob blwyddyn.