Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cyn hir, bydd robotiaid llawfeddygol arloesol yn helpu i drin cleifion canser y colon a'r rhefr a chanser gynaecolegol ar draws ardal Cwm Taf Morgannwg fel rhan o’r Rhaglen Llawdriniaethau â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan. 

 

Robotics

Mae’r Bwrdd Iechyd nawr yn rhan o’r rhaglen sy’n gwella canlyniadau canser drwy gynyddu nifer y cleifion ledled Cymru sy’n gallu cael llawdriniaethau twll clo sy’n llai ymwthiol. 

Mae hyn yn cynnig manteision amlwg i’r cleifion o’u cymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys llai o boen, llai o greithio a chyfle i wella’n gynt. Mae hefyd yn helpu llawfeddygon drwy ganiatáu iddynt sefyll mewn safle cyfforddus yn ystod y llawdriniaeth i leihau straen a blinder. 

Yn yr hirdymor, mae’r rhaglen hefyd yn helpu i arwain at fanteision mawr o ran swyddi i Gymru. Mae’n cyflwyno cyfleoedd hyfforddi a recriwtio newydd, gan fod croeso i staff arbenigol ddod yma i ddysgu ac ymarfer. 

Caiff y rhaglen ei chefnogi ledled Cymru gan £4.6m o gyllid Llywodraeth Cymru ac mae’n ffrwyth llafur y Byrddau Iechyd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Moondance Cancer Initiative. 

Mae robot llawfeddygol Versius gan CMR, sef y partner diwydiant, yn galluogi llawfeddygon i gyflawni triniaethau cymhleth yn fanwl ac yn gywir, gyda’r llawfeddyg yn gweithredu pedair braich roboteg o gonsol agored annibynnol. 

Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol Paul Blake, arweinydd clinigol y rhaglen ym Mwrdd Iechyd CTM: 

“Mae hwn yn gyfle gwych a chyffrous iawn i ddarparu’r llawdriniaethau twll clo mwyaf modern a datblygedig i’r bobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. "

“Bydd llawdriniaeth roboteg yn caniatáu i lawfeddygon drin ein cleifion gyda hyd yn oed mwy o fanylder a chlirdeb gweledol, gan wella canlyniadau canser yn ogystal â lleihau poen ar ôl llawdriniaeth a threulio llai o amser yn yr ysbyty wedyn. 

“Bydd cyflwyno llawdriniaethau roboteg yn ein Bwrdd Iechyd yn ein helpu i ddenu’r cydweithwyr llawfeddygol a nyrsio gorau i weithio gyda ni, sy’n fantais enfawr arall i’r cleifion rydyn ni’n eu gwasanaethu. 

“Rwy’n falch o fod yn rhan o’r datblygiad anhygoel hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld y manteision y bydd hyn yn eu cynnig i’r bobl sy’n cael llawdriniaethau.” 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymuno â Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Betsi Cadwaladr sydd, fel rhan o’r rhaglen, wedi bod yn defnyddio roboteg i drin cleifion canser y colon a’r rhefr a chanser gynaecolegol dros y flwyddyn ddiwethaf.  

Dywedodd clinigydd arweiniol y rhaglen genedlaethol, Jared Torkington: 

“Mae Cymru yn symud ymlaen gyda rhaglen roboteg unedig ar draws ei holl ysbytai i ddarparu’r safon uchaf bosibl o ofal llawfeddygol ac i ddenu a chadw’r bobl orau i weithio yn y GIG yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i staff a chleifion Cwm Taf Morgannwg ac mae’n bluen arall yn het y Rhaglen Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan.” 

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan allweddol yng nghamau cynnar y rhaglen. Roedd ei ymdrechion wedi canolbwyntio ar ddatblygu’r Achos Cyfiawnhad Busnes Cenedlaethol, gan helpu i sicrhau cymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Dywedodd Rhodri Griffiths, y Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd: 

“Rydyn ni’n falch bod rhaglen genedlaethol gydweithredol o’r fath yn cael ei chynnal yng Nghymru ac rydyn ni’n croesawu’n gynnes bartner diweddaraf y rhaglen, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut gall nifer o Fyrddau Iechyd a phartneriaid ddod at ei gilydd a sicrhau manteision hanfodol i gleifion a staff sy’n byw ac yn gweithio ledled y wlad.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen arloesol hon, ewch i dudalen ein prosiect.