A wnaethoch chi fynychu digwyddiad panel ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, a gynhaliwyd yn ConfedExpo y GIG a oedd yn archwilio’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru? Rhag ofn i chi golli’r sesiwn, dyma grynodeb o’r prif bwyntiau trafod a’r wybodaeth allweddol am y rhaglen...
Lansiwyd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru ym mis Mawrth 2022, gan ddarparu system roboteg lawfeddygol CMR Surgical sy’n llai mewnwthiol ac yn hynod fanwl ar gyfer cleifion canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ers ei sefydlu, mae dros 150 o gleifion wedi cael llawdriniaeth gyda dros 60 o staff wedi’u hyfforddi yn y dechnoleg.
Yn ConfedExpo y GIG 2023, cynhaliodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn drafodaeth panel am y gwaith anhygoel hwn ym Mharth Arloesi AHSN. Roedd yn llwyfan i bobl a oedd yn rhan o’r rhaglen rannu eu profiadau. Roedd y cyfranwyr yn cynnwys:
- Jonathan Morgan – Rheolwr y Rhaglen, Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru
- Ana Raduc - Rheolwr Cyffredinol y DU ac Iwerddon, CMR Surgical
- Ken Lim - Llawfeddyg Ymgynghorol Canser Gynaecolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Drwy'r sesiwn, trafodwyd eu safbwyntiau a’u profiadau o'r rhaglen hyd yma a'i chyfeiriad i'r dyfodol.
Sut dechreuodd y rhaglen
Dechreuodd y sesiwn gyda Jonathan Morgan a archwiliodd sut dechreuodd y rhaglen. O gymharu â gwledydd eraill, roedd Cymru ar ei hôl hi o ran gweithredu menter lawfeddygaeth drwy gymorth robot ar gyfer canser, ac roedd angen ffordd feiddgar o weithio i daclo hynny.
O ran newid, roedd awydd i gydlynu dull uchelgeisiol y gellid ei weithredu ar draws Cymru. A’r canlyniad anhygoel oedd rhaglen genedlaethol gyntaf y byd ar gyfer llawfeddygaeth drwy gymorth robot. Helpodd hyn i roi Cymru ar y map o ran arloesi yn y maes hwn, nid yn unig drwy fabwysiadu technoleg drawsnewidiol ond ei wneud mewn ffordd system gyfan.
Cefnogodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru y broses hon drwy ddatblygu’r Achos Cyfiawnhad Busnes Cenedlaethol drwy ymgynghori’n agos gyda’n partneriaid. Helpodd hyn i sicrhau cymeradwyaeth a chyllid Llywodraeth Cymru.
Yna dewiswyd CMR Surgical fel partner y rhaglen yn dilyn proses dendro genedlaethol ganolog. Fe wnaeth Ana Raduc ganmol pa mor gadarn a chynhwysfawr oedd y broses hon.
Cipolwg ar y dechnoleg a’i manteision
Nesaf, archwiliodd y panel fanteision a’r defnydd o System Lawfeddygol Versius CMR Surgical a gafodd ei gosod ym mhob theatr ar draws Cymru. Mae ganddi fanylder a rheolaeth fanwl oherwydd bod ei dyluniad a'i symudiad yn dynwared braich a garddwrn person.
Siaradodd Ken Lim am “feddwl ar lefel laparosgopig a gweithredu’n robotig”. Mae angen dull laparosgopig ar gyfer nifer o lawdriniaethau canser a all fod yn gymhleth i lawfeddygon, sydd ar eu traed am oriau. Mae System Lawfeddygol Versius yn golygu y gallan nhw eistedd ac aros yn gyfforddus. Mae hefyd yn symlach dysgu sut i wneud llawdriniaeth drwy gymorth robot na defnyddio dulliau laparosgopig traddodiadol. Fe wnaeth un llawfeddyg grynhoi drwy sôn am ddefnyddio’r dechnoleg fel “rydych chi wedi'i gwneud hi'n hawdd”.
Tynnwyd sylw hefyd at effaith bositif y rhaglen ar gleifion canser. Roedd manylder y llawdriniaeth a chlwyfau llai o faint yn golygu gwella’n gyflymach a threulio llai o amser yn yr ysbyty.
Beth am y dyfodol?
Mae’r rhaglen yn bartneriaeth cydweithio 10 mlynedd, a’r nod ar y cyd yw darparu ystod o fanteision hirdymor ar gyfer iechyd a lles cleifion canser yng Nghymru.
Soniodd aelodau’r panel am sut roedd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru wedi helpu i ddod â swyddi a hyfforddiant i’r wlad. Disgwylir i hynny barhau; mae rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar lawfeddygon, a buddsoddi yn ein sgiliau yn chwarae rhan sylfaenol yn y ffordd y gallwn drin cleifion canser yng Nghymru yn effeithiol, tra hefyd yn annog swyddi hollbwysig a thwf economaidd.
Gwnaeth bawb sylwadau ar gynlluniau i gyflwyno'r dechnoleg ymhellach ar draws Cymru. Tynnodd Jonathan Morgan sylw at bwysigrwydd siarad yn gyson â’r holl bartneriaid ar draws y wlad i osgoi gweithio’n ynysig a pharhau i gydweithio. Gorffennodd drwy danlinellu pwysigrwydd cydweithio, gan ddweud “pan fydd eich nodau cyffredin yn cyd-fynd â’i gilydd, gallwch chi wthio ffiniau.”
Os hoffech wybod mwy am y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru, yna ewch i Dudalen y Prosiect a rhowch nod tudalen ar y safle am yr holl wybodaeth bwysig ac i ddilyn ei thaith.