Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesi ddeinamig sy’n trawsnewid ein sefyllfa o ran iechyd, lles a’r economi. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio â phartneriaid ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Sut beth yw hynny yn ymarferol?
Rydym yma i helpu i drawsnewid iechyd a lles economaidd y genedl drwy wneud y canlynol:
-
Cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol sy’n cefnogi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
-
Gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i hyrwyddo datblygu economaidd ar draws y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan sbarduno twf busnes a chreu swyddi.
P’un ai ydych chi’n fusnes bach, yn gwmni rhyngwladol ar raddfa fawr neu’n ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol, rydym ni yma i helpu drwy ein hamrywiaeth eang o wasanaethau cymorth. Dysgwch sut gallwn ni helpu i gyflymu eich arloesedd.