Mae’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru gan ddefnyddio robot Versius wedi digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn ganlyniad i weithredu Rhaglen Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg, sydd wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, byrddau iechyd ledled Cymru a’r Moondance Cancer Initiative.
Nid yw dewis a ddylid cael hysterectomi ar ôl cael diagnosis o ganser ceg y groth byth yn benderfyniad hawdd i fenyw ei wneud ar unrhyw adeg o’i bywyd. Serch hynny, dyna a wynebodd Nicola Hughes, 33 oed, o Fagillt pan gafodd hi ddiagnosis o’r clefyd ym mis Mai 2022.
Roedd ei chanlyniadau prawf ceg y groth rheolaidd yn gynharach yn y flwyddyn yn cadarnhau bod gan Nicola y feirws papiloma dynol (HPV) risg uchel a newidiadau i’w chelloedd serfigol.
Dywedodd: “Cefais fy mhrawf ceg y groth cyntaf pan oeddwn i’n 25 oed a dylwn i fod wedi mynd i fy sgriniad nesaf dair blynedd yn ddiweddarach, ond penderfynais beidio â mynd. Byddai’n dda gen i pe bawn i wedi mynd yn gynt – rwyt ti bob amser yn meddwl na fydd hynny’n digwydd i ti, a phe bawn i’n gallu troi’r cloc yn ôl byddwn i wedi mynd pan gefais y cyfle i wneud hynny.
“Cefais fy annog i fynd gan fy ffrind ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Ar ôl i mi gael fy nghanlyniadau, cefais i apwyntiad ar gyfer colposgopi iddynt wneud ymchwiliadau pellach. Roedd y celloedd annormal yn ganseraidd ond, yn ffodus, nid oedd wedi ymledu i unrhyw le arall yn fy nghorff.”
Yn dilyn trafodaethau gyda’i thîm clinigol yn Ysbyty Gwynedd, dewisodd Nicola gael hysterectomi (tynnu’r groth) i leihau’r risg y byddai celloedd canseraidd yn dychwelyd i geg y groth.
Dywedodd Nicola, sy’n fam i Oliver, sy’n 13 oed, ac Ava, sy’n chwe blwydd oed, mai dyma’r peth iawn i’w wneud yn ei hamgylchiadau hi.
“Yn sicr, nid oedd gwneud y penderfyniad hwnnw i gael hysterectomi yn benderfyniad syml, ond dyma oedd yr un cywir i mi. Mae gen i ddau o blant sydd werth y byd ac rwy’n teimlo bod fy nheulu i’n gyflawn. Mae’n bwysicach i mi fy mod i o gwmpas i weld fy mhlant yn tyfu i fyny felly roeddwn i eisiau gwneud unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau’r siawns y byddai’r canser yn dychwelyd.”
Cafodd Nicola lawdriniaeth yn ystod mis Medi a hi oedd y claf cyntaf yng Nghymru i gael hysterectomi drwy ddefnyddio Robot Versius CMR Surgical fel rhan o’r Rhaglen Genedlaethol - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg.
Dywedodd ei llawfeddyg, Miss Ros Jones: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cwblhau’r hysterectomi robotig cyntaf yn Ysbyty Gwynedd. Mae Nicola wedi gwella’n dda iawn, ac rydym yn falch bod y dechnoleg hon ar gael i ni i’n helpu i gyflawni gweithdrefnau cymhleth yn gywir ac yn fanwl.
“Mae’r prawf HPV rydyn ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru erbyn hyn yn ffordd fwy effeithiol o ganfod pobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu newidiadau mewn celloedd sy’n gallu achosi canser ceg y groth, felly mae’n gam ymlaen go iawn ar gyfer y rhaglen sgrinio ceg y groth. Gallai mynd am apwyntiad sgrinio achub eich bywyd. Drwy ddod i’ch apwyntiad, cewch gyfle i atal canser ceg y groth rhag datblygu neu ei ddal yn gynnar pan fydd modd ei drin yn haws.”
Mae Nicola, sy’n gwneud yn dda yn dilyn ei llawdriniaeth, yn awr yn annog eraill i fynychu eu profion ceg y groth yn rheolaidd.
“Dylwn fod wedi mynd i fy apwyntiad sgrinio yn llawer cynt nag a wnes i, ac os nad oeddwn wedi mynd pan wnes i, gallai fod wedi bod yn ganlyniad gwaeth i mi. Mae fy mhrofiad i wedi dangos pa mor bwysig yw mynd i’ch prawf ceg y groth – gall achub eich bywyd.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy stori yn annog rhagor o bobl i fynd i’w prawf ceg y groth a pheidio â’i ddiystyru – mae mor bwysig. Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn, ac rydw i’n ddiolchgar iawn i’r tîm yn Ysbyty Gwynedd am ofalu amdanaf i drwy gydol fy nghyfnod dan eu gofal.”
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Ar ôl bod yn gysylltiedig â datblygu achos busnes ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o weld y rhaglen yn tyfu o nerth i nerth. Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni mewn partneriaeth â rhywun, ac mae ar fin newid bywydau pobl ledled Cymru er gwell.”
Ewch i’n Tudalen Prosiect i ddysgu mwy am y Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg.