Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi rhaglen genedlaethol yng Nghymru ar gyfer llawfeddygaeth drwy gymorth robot, sy’n galluogi llawfeddygon i wneud triniaethau cymhleth yn fwy manwl a chyda mwy o reolaeth.

national robotic-assisted surgery programme team with Welsh Health Minister Eluned Morgan

Bydd Rhwydwaith Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth Robot, sydd wedi’i ddatblygu gan fyrddau iechyd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moondance Cancer Initiative, yn darparu llawdriniaethau llai mewnwthiol i filoedd o gleifion canser ledled y wlad.

Mewn llawdriniaeth o’r fath, defnyddir offer llawfeddygol robotig uwch dan reolaeth llawfeddyg. Ar y dechrau bydd y driniaeth yn cael ei defnyddio yng Nghymru ar gyfer rhai mathau o ganser y colon a’r rhefr, canser gastroberfeddol uchaf, canser wrolegol a chanser gynaeolegol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4.2 miliwn ar gyfer y rhwydwaith dros bum mlynedd, a byrddau iechyd yn darparu £13.35 miliwn dros 10 mlynedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:

“Mae Rhwydwaith Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth Robot yn rhaglen uchelgeisiol a phwysig a fydd yn helpu i wella canlyniadau i gleifion a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Bydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ar ddefnyddio technegau llawfeddygol robotig. Bydd y gwasanaeth arloesol hwn hefyd yn annog staff arbenigol i ddod i Gymru i hyfforddi ac ymarfer.”

Caiff y driniaeth ei darparu i ddechrau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae disgwyl i’r claf cyntaf gael triniaeth ym mis Mehefin. Unwaith y bydd ar waith yn llawn, ni fydd angen i gleifion yn y Gogledd deithio i Loegr mwyach i gael llawdriniaeth drwy gymorth robot.

Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gynnig y driniaeth o fis Mehefin ymlaen – gan ychwanegu at gapasiti ei robot presennol – ac mae disgwyl i fyrddau iechyd eraill ledled Cymru ddilyn yn yr un modd.

Bydd y rhaglen yn cael ei rhoi ar waith gan fyrddau iechyd mewn partneriaeth â’r cwmni technoleg feddygol, CMR Surgical, a fydd yn darparu’r cyfarpar, gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant, yn ogystal â chefnogi ymchwil ar fabwysiadu triniaethau drwy gymorth robot.

Dywedodd Jared Torkington, Clinigydd Arweiniol y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth Robot:

“Mae datblygiadau technolegol wedi cael effaith enfawr ar lawfeddygaeth dros y degawdau diwethaf, gan leihau pa mor fewnwthiol yw triniaethau, gwella canlyniadau, a lleihau cyfnodau yn yr ysbyty. Bydd y rhaglen genedlaethol hon, sy’n manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.

“Wrth i lawfeddygaeth drwy gymorth robot barhau i ddatblygu, bydd newid mwy radical fyth i’w weld dros yr 20 mlynedd nesaf, tuag at ddyfodol lle mae gofal iechyd yn amharu llai fyth ar gleifion ac yn gallu addasu i anghenion unigol cleifion yn well.”

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae maes llawfeddygaeth yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid sylweddol a fydd yn darparu buddion mawr i gleifion. Rydym nawr ar ddechrau’r cyfnod nesaf, ac o bosib’ yr un mwyaf cyffrous, yn esblygiad gofal iechyd, diolch i ddatblygiadau technolegol cyflym.”

Dywedodd Dr Mark Slack, Prif Swyddog Meddygol CMR Surgical:

“Mae hwn yn gam nodedig gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd yn cynnig llawer o fuddion i lawfeddygon a chleifion gan eu galluogi i fanteisio ar dechnoleg arloesol sy’n achub bywydau. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r rhaglen hon ac yn credu y bydd gwledydd o amgylch y byd yn edrych tuag at Gymru fel model arfaethedig i weithredu roboteg lawfeddygol gan ddefnyddio technoleg uwch.

“Hoffem ddiolch i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am ein dewis ni yn bartner yn y rhaglen roboteg gyffrous hon i ateb yr angen mawr am ofal llawfeddygol a chanlyniadau gwell i gleifion canser yng Nghymru.” 

Dywedodd Mr Mohamed Abdulmajed, Llawfeddyg Ymgynghorol mewn Wroleg ac Oncoleg y Pelfis yn Ysbyty Gwynedd:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod y ddisgyblaeth lawfeddygol gyntaf i ddefnyddio roboteg i drin cleifion sydd angen llawdriniaeth fawr ar gyfer canser yn y Gogledd.

“Mae llawdriniaeth robotig yn cynnig llawer o fanteision i gleifion o gymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys clwyf llai, colli llai o waed, cyfnod byrrach yn yr ysbyty ac adferiad cyflymach sy’n galluogi’r claf i ddychwelyd i’w waith yn gynt.

“Hyderwn y bydd darparu llawfeddygaeth robotig yn y Gogledd yn helpu i recriwtio a chadw staff. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle inni hyfforddi staff yn lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu faint o lawdriniaethau robotig y gallwn eu cynnig i gleifion canser ledled y Gogledd.”