Mae Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, drwy Rwydwaith Canser Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi cynnal digwyddiad ‘Arloesi wrth Ganfod a Gwneud Diagnosis o Ganser yn Gynnar yng Nghymru’.

Innovation for early detection and diagnosis of cancer event launches

Cynhaliwyd y digwyddiad undydd ar 17 Tachwedd ac roedd dros 120 wahoddedigion yn bresennol gan gynnwys arbenigwyr, arweinwyr barn allweddol, ymarferwyr ac arweinwyr o bob sector. Roeddent yno i drafod patrymau mewn canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar, tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu cleifion a chlinigwyr a chanfod cyfleoedd i wella.

Mae canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau goroesi. Pobl sy’n cael diagnosis cynnar o ganser sydd â’r siawns orau o gael triniaeth iach a goroesiad tymor hir. Mae cryn le i wella canfod a diagnosio’n gynnar yng Nghymru, gyda thechnolegau newydd ac awydd cryf gan y llywodraeth i helpu i fynd â’r trawsnewidiad hwn rhagddo.

Cafodd y digwyddiad ei agor gan yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yna cafwyd sesiwn lawn fer gan yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Canser Cymru a Dr Sam Harrison, Uwch Reolwr Tystiolaeth Strategol, (CRUK). Cynhaliwyd trafodaethau panel a chafwyd areithiau gan wneuthurwyr penderfyniadau sy’n gweithio ar draws gofal iechyd, academia a diwydiant. Roedd y rheini a oedd yn bresennol hefyd yn gallu edrych ar y tueddiadau, yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer canfod a diagnosio ar gam cynnar mewn ystafelloedd ymneilltuo yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd ar-lein.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys paneli wedi’u cadeirio gan:

  • Yr Athro Dean Harris, Llawfeddyg Colorectal Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: archwilio sut rydym yn mynd i’r afael â chanfod a’r diagnosis cynnar, gyda siaradwyr o’r Moondance Cancer Initiative, Roche a chynrychiolydd cleifion.
  • Judi Rhys, Prif Weithredwr, Canolfan Canser Tenovus: yn edrych ar sut gallwn ni ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer arloesi yn y pethau rydyn ni eisoes yn eu gwneud.
  • Dr Mererid Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC): yn trafod beth allai Cymru fod yn ei ddysgu gan eraill, gyda siaradwyr o Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, Jiva.ai, GRAIL a Rutherford Health PLC.

Bu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda Rhwydwaith Canser Cymru a Sefydliad Moondance i drefnu’r digwyddiad, gan ddarparu gwybodaeth a chysylltiadau gan y rheini sy’n gweithio ar draws y diwydiant, a chynhyrchu pecyn i gynadleddwyr sy’n cynnwys crynodebau o ddatblygiadau diweddar mewn canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar ar sail ymchwil gefndir helaeth a wnaed gan Dîm Gwybodaeth y Sector Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Sefydliad Moondance gan dynnu sylw at bynciau allweddol.

Dywedodd Dr Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

Mae canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar yn hanfodol er mwyn gyrru agenda ataliol ar gyfer gofal iechyd a chefnogi canlyniadau gwell. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gefnogi GIG Cymru yn y maes pwysig hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nifer o randdeiliaid i gefnogi’r gwaith o roi’r atebion trawsnewidiol a nodwyd yn ystod y digwyddiad ar waith yn gyflym ac ar raddfa fawr."

Roedd Rhwydwaith Canser Cymru, a oedd hefyd yn cefnogi’r digwyddiad, wedi defnyddio ei rwydwaith helaeth o arweinwyr o bob rhan o’r byd ymchwil, datblygu ac arloesi ym maes canser.

Dywedodd Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru:

“Mae Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, drwy Rwydwaith Canser Cymru, yn falch o fod wedi helpu i drefnu digwyddiad heddiw. Gall gwelliannau mewn diagnosis a chanfod canser yn gynnar helpu i ddiogelu ein systemau gofal iechyd yn y dyfodol a gwella canlyniadau i gleifion. Ni fu erioed fwy o angen i wella canlyniadau a chyflymu arloesedd ac ymchwil i ffyrdd newydd o weithio. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i gynnull ac ysgogi rhanddeiliaid pwysig i drawsnewid gwasanaethau o’r fath, lle mae pob un yn cynnig profiadau a syniadau amrywiol ond dim ond drwy gyfweithio mae modd i gyflawni ein dyheadau.”

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru yn trefnu cyfarfod dilynol gyda dylanwadwyr allweddol yn dilyn y digwyddiad er mwyn manteisio ar gynnydd a pharhau i gryfhau perthnasoedd.