Mae enillwyr Her Technoleg Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sefydliad TriTech 2021 bellach wedi cael eu cyhoeddi, cystadleuaeth sydd wedi’i dylunio i ganfod, ariannu a chefnogi syniadau a datblygiadau arloesol newydd sydd â’r pŵer i ddiwallu anghenion cyfnewidiol cleifion Cymru.
Wedi’i hwyluso gan Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chanolfan Cyflymu Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe, cafodd yr her dros 48 o geisiadau cam cynnar, oedd â’r bwriad o ddatrys heriau ar themâu clinigol allweddol a nodwyd gan TriTech.
Cafodd pob thema ei dylunio’n benodol i ysgogi amrywiaeth o syniadau, o ddatblygu technoleg glyfar a dyfeisiau meddygol cysylltiedig, i harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer diagnosteg. Nod y gystadleuaeth yn y pen draw fydd cefnogi a chyflymu’r gwaith o ddatblygu a darparu technoleg arloesol sydd â’r potensial i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion, yn ogystal â chreu arbedion effeithlonrwydd o ran prosesau ac adnoddau i fyrddau iechyd a sefydliadau gofal cymdeithasol.
Cynhaliwyd y digwyddiad dwys dros bythefnos ar y we gan borth arloesi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, lle bu’r ymgeiswyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o arweinwyr yn y diwydiant. O hyn, cafodd pedwar cais llwyddiannus £20,000 o gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chymorth pwrpasol wedi’i gyfateb gan y Ganolfan Cyflymu Technoleg Gofal Iechyd i ddatblygu eu syniadau ymhellach.
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Fel rhan o’n hymrwymiad i feithrin diwylliant o arloesi ar draws Cymru, rydym ni’n falch o gefnogi her arloesi iechyd a gofal Tritech. Edrychwn ymlaen at weld y prosiectau cyffrous hyn yn cael eu datblygu ac yn cyfrannu’n ehangach at wella darpariaethau a phrofiadau cleifion ar draws Cymru.”
Dyma enillwyr Her Technoleg Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sefydliad TriTech:
- Synhwyrydd Cwympo Safehouse AI – Adnodd y genhedlaeth nesaf a ddatblygwyd gan Sensor Innovative Design (SSID) Ltd. Mae’r ddyfais hon yn defnyddio technoleg AI sy’n cydymffurfio â GDPR i ganfod a yw person wedi cwympo gyda chywirdeb o dros 95%. Yna, gall y synhwyrydd agor galwad llais rhwng y defnyddiwr a’r gwasanaethau brys o fewn 30 eiliad.
- Bot Sgwrsio Covid Hir - Gan weithio gyda’r Athro Keir Lewis a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae Science & Engineering Applications Ltd wedi datblygu ap symudol a fydd yn helpu dioddefwyr Covid Hir i olrhain eu cyflwr a rhannu eu cofnodion yn ddiogel â’u meddyg teulu/tîm adsefydlu.
- Signposting AI – Gan gysylltu â’r Gymuned CHI, bydd AI (Deallusrwydd Artiffisial) yn llunio llyfrgell o gynnwys fideo i gynorthwyo’r rheini sy’n byw gyda chyd-afiechydon i gynnig gwasanaeth cyfeirio a chymorth wedi’i deilwra’n bersonol. Mae tua 200 o ffilmiau byr o ansawdd darlledu sy’n canolbwyntio ar y claf eisoes wedi cael eu creu o dan y faner “PocketMedic”. Mae’r llyfrgell yn cwmpasu amrywiaeth o gyflyrau cronig o ddiabetes i wellhad canser, yn ogystal â chynnwys hyfforddi arloesol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Spirometreg Ffôn Eupnoos - Mae Eupnoos yn datblygu rhaglen ar gyfer ffonau clyfar i wneud diagnosis o achosion sy’n gwaethygu, a digwyddiadau difrifol a chymedrol mewn cleifion sy’n dioddef o asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Mae’r rhaglen yn troi’r ffôn clyfar yn spiromedr a system brysbennu i fesur a sgorio gweithrediad yr ysgyfaint er mwyn gallu hunan-brofi gartref.
Mae Sefydliad TriTech yn fenter dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Chanolfan Cyflymu Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe a Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r Sefydliad yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu atebion gofal iechyd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, gan gynnig un pwynt mynediad i’r GIG i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr drwy ddull cydweithredol ac ystwyth.
Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Arweinydd Gwyddonol a Phennaeth Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae derbyn a mabwysiadu technolegau newydd yn gyflym wedi bod yn hollbwysig wrth ymateb i’r pandemig. Wrth i ni symud tuag at gyfnod o sefydlogi, mae enillwyr ein her wedi rhoi cyfle cyffrous i ni wella iechyd a lles ein cleifion yn Hywel Dda, Cymru a thu hwnt.”
Dywedwch wrthym am eich arloesi
Os oes gennych brosiect neu syniad arloesol ac yn awyddus i godi eich rhaglen waith, dywedwch fwy wrthym amdano drwy ein Ffurflen Ymholiad Arloesi.