Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â MediWales ar gyfer ei 16eg seremoni flynyddol a gynhelir ddydd Iau 2 Rhagfyr 2021.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer Gwobrau Arloesedd MediWales yw 22 Tachwedd 2021.
Mae Gwobrau Arloesi MediWales yn gyfle gwych i arddangos a dathlu gwaith anhygoel ar draws y sector gwyddorau bywyd a’r effaith y mae’n ei chael ar wella iechyd a lles economaidd.
Bydd seremoni 2021 yn dychwelyd i fod yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb, gyda deg gwobr i’w hennill ar draws categorïau diwydiant a’r GIG:
Gwobrau’r Diwydiant
- Arloesi
- Cychwyn busnes
- Partneriaeth â'r GIG
- Allforio
- Cyflawniad eithriadol
- Ymateb i Covid
Gwobrau’r GIG
- GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant
- Effaith Ddigidol
- Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid
- Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Diwydiant
I gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost at Polly.Carr@mediwales.com yn amlinellu’r wobr/gwobrau y mae gennych ddiddordeb ynddynt er mwyn iddi allu anfon y ffurflenni perthnasol atoch. Cofiwch mai’r dyddiad cau yw dydd Gwener 15 Hydref 2021.
Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae ymateb y diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol i Covid-19 wedi bod yn ysbrydoledig, yn arloesol ac, mewn sawl achos, wedi torri tir newydd. Gadewch i ni sicrhau mai rhain yw’r Gwobrau Arloesi MediWales gorau hyd yma – er mwyn i ni allu dathlu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ar draws ein hecosystem,”
Dywedodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales:
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eleni i gyflwyno Gwobrau Arloesi MediWales 2021. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld ceisiadau eleni ac at ddathlu gyda chydweithwyr o’r sectorau gwyddorau bywyd a thechnoleg iechyd ym mis Rhagfyr,”
Cliciwch yma i ddarllen mwy am Wobrau Arloesi MediWales 2021 a sut mae cyflwyno eich ceisiadau ar gyfer y gwobrau sydd o ddiddordeb i chi.