Cynhaliwyd Gwobrau Arloesi MediWales ar-lein ddydd Mercher 2 Rhagfyr i ddathlu llwyddiannau eithriadol ar draws diwydiant a maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Blue lightbulb innovation art concept on dark blue background

Mae arloeswyr yng Nghymru wedi gweithio’n ddiflino i ymateb i heriau a chyfleoedd iechyd a gofal cymdeithasol nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen eleni. I gydnabod y gwaith hwn, daeth MediWales â sefydliadau ac unigolion blaenllaw o bob cwr o’r wlad at ei gilydd yn seremoni Gwobrau Arloesi, sy’n cael ei chynnal am y bymthegfed flwyddyn yn olynol. 

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r seremoni yn ystod blwyddyn lle’r oedd datblygu a mabwysiadu arloesedd yn gyflym yn bwysicach nag erioed. Cyflwynodd MediWales y digwyddiad drwy ryngwyneb digidol, gan ddarparu llwyfan hygyrch i wahoddedigion o Gymru a thu hwnt i fynychu a rhwydweithio. 

Roedd y categorïau ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys diwydiant a maes gofal iechyd, gan ddenu detholiad cryf o ymgeiswyr i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd a lles economaidd yng Nghymru.  

Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiannau ehangach y dirwedd arloesi ffyniannus ar draws y wlad, gyda chydweithio ar draws sectorau yn gyrru arloesedd yn ei flaen mewn amgylchiadau heriol iawn. 

Gwobr Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid 

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o noddi’r categori gwobr hwn. Cafodd y wobr ei hennill gan Grŵp Cydweithiol GIG Cymru, Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol a’r Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Glinigol, a fu’n gweithio mewn partneriaeth i greu a gweithredu Canllawiau Cenedlaethol Ysbytai Covid-19. Roedd hyn yn galluogi darparwyr gofal iechyd i ymateb i dderbyn cleifion pan oedd pandemig Covid-19 ar ei anterth. Cafodd y llwyfan digidol ei ddylunio i fod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn addysgol er mwyn annog pobl i'w ddefnyddio. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod wedi cefnogi Gwobrau Arloesi MediWales eleni. Hoffwn longyfarch Grŵp Cydweithiol GIG Cymru, Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol a’r Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Glinigol ar ennill Gwobr Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid – yn ogystal â llongyfarch yr holl enillwyr a’r ymgeiswyr. Mae cefnogi arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed ac mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at gyflawniadau’r sector hwn. Mae llu o ymgeiswyr gwych wedi bod ac rydyn ni’n falch iawn o weld cymaint o sefydliadau cryf yng Nghymru yn gweithredu yn y maes hwn.”

Roedd 10 categori ychwanegol ar draws dau brif faes, gyda’r enillwyr wedi’u rhestru isod: 

Enillwyr y Diwydiant 2020 

  • Arloesi – Dyfarnwyd y wobr hon i CanSense am eu technoleg sy’n galluogi canfod canser y coluddyn yn gynnar, yn rhad ac mewn ffordd llai mewnwthiol drwy brofi gwaed, gan helpu i wella canlyniadau cleifion. Mae gan y dechnoleg hefyd y potensial i gael ei defnyddio mewn diagnosis aml-ganser. 

  • Cwmni newydd – Enillodd Llusern Scientific y categori hwn am eu profion canfod firws yn gyflym ar gyfer Covid-19. Mae’n seiliedig ar dechnoleg LAMP, nid yw’n fewnwthiol ac mae ganddo benodoldeb uchel, gan roi canlyniadau mewn llai na 30 munud. 

  • Llwyddiant Eithriadol o ran Covid – Bond Digital Health enillodd y wobr hon, a gafodd ei haddasu eleni i adlewyrchu llwyddiannau o ran Covid-19. Dyfarnwyd y wobr iddynt am ddatblygu Transform, sef llwyfan digidol a gynlluniwyd ar gyfer y diwydiant diagnosteg er mwyn digideiddio a rhannu data mewn amser real.  

  • Partneriaeth â’r GIG – Bu DTR Medical mewn partneriaeth â llawfeddygon ENT er mwyn helpu i ddatblygu’r canllaw endosgopig byr a ddefnyddir mewn diagnosteg canser y pen a’r gwddf, a luniwyd i leihau risg Covid-19 i glinigwyr. Darparodd DTR Medical flwch am ddim i bob clinig ENT yn y DU. 

  • Allforio – Enillodd Sharp Chemical y categori hwn am fuddsoddi mewn ehangu labordy masnachol gwerth £1 miliwn. Roedd hyn yn darparu deunydd pacio pothelli a chartonau, cyfresu a labelu gydag awtomatiaeth integredig.  

  • Gwobr y Beirniaid Diwydiant – Mae’n adlewyrchu ysbryd pob categori diwydiant ledled Cymru yn 2020. Hybrisan gafodd y wobr hon. Maent wedi datblygu hylif diheintio dwylo diwenwyn a dialcohol, wedi dechrau uwchraddio technoleg cynhyrchu masg wyneb perchnogol ac wedi ffurfio partneriaeth â Gwalia Healthcare i ddatblygu technolegau newydd. 

Enillwyr y GIG 2020 

  • Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant – Derbyniodd y cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canolfan Ymchwil Treialon ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y wobr hon am drefnu astudiaeth Brechlyn Covid-19 Rhydychen yng Nghymru. Sefydlwyd yr astudiaeth hon yn gyflym iawn fel rhan o astudiaeth amlwladol gyda’r nod o ddod o hyd i ateb parhaol i’r pandemig. 

  • Effaith Ddigidol – Cafodd Ap Symudol Porth Clinigol Cymru ei greu gan Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru er mwyn galluogi clinigwyr i gael gafael ar ddata cleifion wrth fynd ac wrth wlâu cleifion trwy ddyfais symudol. Roedd hyn yn golygu llai o waith papur a llai o bobl a gwell effeithlonrwydd cyffredinol. 

  • GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant – Cydweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Patholeg Gellog â Talking Point i greu meddalwedd trawsgrifio di-drafferth ar gyfer sleidiau a oedd yn gwella effeithlonrwydd ac yn hwyluso gweithio o bell. 

  • Gwobr Beirniaid y GIG – Gan adlewyrchu ysbryd holl gategorïau’r GIG ledled Cymru yn 2020, enillodd TEC Cymru y wobr hon am sefydlu gwasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru ar draws gwasanaethau sylfaenol ac eilaidd. Gwnaethant gydweithio â Gwybodeg GIG Cymru, Cymunedau Digidol Cymru CWTCH Gwent ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i greu offeryn a oedd yn caniatáu darparu gwasanaethau gofal iechyd o bell. 

Dywedodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales: 

“Roedd y wobr eleni yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiannau ein cydweithwyr sy’n gweithio ar draws sector gwyddorau bywyd deinamig Cymru, gyda’n seremoni ddigidol yn caniatáu i ni groesawu cefnogaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol. Hoffem ddiolch i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am eu cefnogaeth barhaus i’r Gwobrau Arloesi.” 

Dysgwch fwy am brosiect enillydd pob categori ar sianel YouTube MediWales