Lansiodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yr Wythnos Gwerth mewn Iechyd gyntaf (12-16 Hydref) mewn partneriaeth â'r Tîm Gwerth mewn Iechyd cenedlaethol ddydd Llun 12 Hydref.

Four building blocks

Daeth y sesiwn agoriadol 'Gwerth mewn Iechyd – Beth mae'n ei olygu i Gymru?' â thros 190 o unigolion o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop at ei gilydd ar gyfer wythnos gyffrous o ddigwyddiadau a sydd yn canolbwyntio ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth. 



Roedd panel y digwyddiad yn cynnwys yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dr Sally Lewis, Arweinydd Cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd, Helen Thomas, Cyfarwyddwr Gwybodeg GIG, Judith Paget, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 



Gosododd Dr Sally Lewis y llwyfan ac amlinellodd y materion allweddol sy'n ymwneud â gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth. Roedd hyn yn cynnwys, yr heriau a wynebir gan iechyd a gofal yng Nghymru, i'r angen i nodi'r ymyriadau sydd eu hangen i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion, a sut rydym yn gweithio ar y cyd i gyd-greu a darparu dulliau effeithiol o gaffael, arloesi a dysgu.



Croesawodd yr Athro Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, y ffocws ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, yn enwedig wrth i'r gwasanaeth gofal iechyd barhau i ymateb i Covid-19. 

Ymrwymiad sy'n canolbwyntio ar y diwydiant i ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth 

Yn ddiweddar, lansiodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ein blaenoriaethau ar gyfer 2020/21, a byddwn yn annog cydweithio rhwng partneriaethau cydweithredol rhwng partneriaid yn y diwydiant a GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.



Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

"Rydym yn falch iawn o fod mewn cwmni mor wych wrth i ni lansio Wythnos Gwerth mewn Iechyd 2020. Nid yn unig yw hyn yn rhoi cyfle inni amlinellu ein huchelgais, ond mae hefyd yn rhoi cyfle inni weithio gyda busnesau i gefnogi'r ffocws pwysig hwn.



"Rydym wedi sefydlu tîm o arbenigwyr i gefnogi gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth wrth i ni gydweithio â diwydiant i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion."

Wythnos Gwerth mewn Iechyd 2020

Nid yw'n rhy hwyr i archebu lle! Bydd Wythnos Gwerth mewn Iechyd yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau arbenigol, sesiynau hyfforddi, astudiaethau achos a siaradwyr arbenigol ar draws caffael, iechyd, diwydiant a'r byd academaidd sy'n dathlu mabwysiadu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yng Nghymru. 

I gael gwybod mwy am ein ffocws ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth a sut y gall diwydiant gymryd rhan, ewch i: Gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, yr her a'r cyfle.