Mae Llywodraeth Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi cynlluniau i adeiladu tîm cryf o 200 o arbenigwyr yng Nghymru, a fydd yn cael ei lansio fel Labordy Goleudy cyn bo hir. Bydd hyn yn creu capasiti ychwanegol ar gyfer strategaeth brofi Covid-19 y Deyrnas Unedig.
Mae gwaith i sefydlu Labordy Goleudy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym Mharc Imperial yng Nghasnewydd yn cael ei gefnogi gan bartneriaeth â chwmni diagnosteg amlwladol, PerkinElmer Inc., arweinydd byd-eang sydd wedi ymrwymo i arloesi er mwyn creu byd iachach.
O dan arweiniad Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae cyfres o bartneriaethau wedi sefydlu rhwydwaith o Labordai Goleudy i gynyddu nifer y profion coronafeirws y gellir eu cynnal bob dydd.
Meddai'r Arglwydd Bethell, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Arloesi:
"Dw i'n hynod o falch ac wrth fy modd o gael cyhoeddi ychwanegu'r Labordy Goleudy newydd yma, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd, at ein rhwydwaith.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi ehangu'r galluoedd profi yn aruthrol, gan fwy na dyblu capasiti presennol y gwasanaethau iechyd a labordai PHE. Mae'r ehangiad cyflym yma'n golygu bod gennym y rhwydwaith mwyaf o gyfleusterau profi diagnosteg yn hanes Prydain bellach, sy'n gamp aruthrol. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni hyn, yn enwedig y tîm yma yng Nghymru. Maen nhw wedi bod yn bartneriaid allweddol yn y gwaith o gynyddu gallu'r Deyrnas Unedig i gynnal profion dros y pedwar mis diwethaf, a byddan nhw'n parhau i fod wrth i ni ymladd y feirws yma."
Caiff Labordy Goleudy Cymru ei sefydlu gan un o brif gwmnïau diagnosteg y byd, PerkinElmer Genomics, sydd wedi'i gynnwys i ddarparu, staffio a rheoli'r cyfleuster. Y cwmni fydd yn darparu'r dechnoleg allweddol yn y Labordy Goleudy hefyd. Yn ganolog i'r broses brofi mae pecynnau profi Covid-19 PerkinElmer, sy'n gallu canfod a oes gan y claf ganlyniad positif neu negatif ar gyfer y feirws ar hyn o bryd.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:
"Bydd yr ymgyrch recriwtio yma'n creu 200 o swyddi pwysig yma yng Nghymru, a fydd yn hanfodol i gefnogi ein strategaeth brofi gyffredinol ac i roi hwb i economi Cymru ar adeg anodd iawn.
"Dw i'n falch bod Llywodraeth Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi'r broses o recriwtio ar gyfer y cyfleuster rhagorol yma, ynghyd â'r cwmni byd enwog, PerkinElmer. Bydd y rhwydwaith o Labordai Goleudy yn hanfodol i gefnogi Cymru, a'r Deyrnas Unedig yn ehangach, wrth i ni barhau i ddelio â choronafeirws. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod gennym gronfa gref o weithwyr proffesiynol ym maes gwyddor bywyd nawr, ac i'r dyfodol."
Mae PerkinElmer eisoes wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu capasiti Cymru i gynnal profion Covid-19, wedi i'w hymateb cychwynnol i alwad ar y diwydiant, a gyhoeddwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, arwain at sicrhau pecynnau profi penodol ar gyfer Covid-19 ac offer labordy firoleg blaenllaw a arweiniodd at y gwaith o ddatblygu cyfleusterau profi ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn dilyn y llwyddiant yma, symudwyd ymlaen i archwilio sut y gallai PerkinElmer helpu i ddatblygu Labordy Goleudy yng Nghymru a fyddai'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Mae gwaith parhaus PerkinElmer i ddatblygu capasiti profi Covid-19 Cymru yn arwydd clir o'r diwydiant gwyddorau bywyd o'r radd flaenaf sy'n bodoli yma.
"Bydd y prosiect yma'n cyfoethogi ac yn datblygu'r sector yng Nghymru, gan roi cyfle i ddatblygu a hyfforddi gweithwyr proffesiynol ym maes gwyddor bywyd ar gyfer y dyfodol.
"Rydyn ni'n llwyr gefnogi PerkinElmer i recriwtio gweithwyr sydd â'r arbenigedd a'r profiad arbenigol angenrheidiol ar gyfer Labordy Goleudy diweddaraf y Deyrnas Unedig."
Wrth i'r gwaith o adeiladu'r labordy newydd fynd rhagddo, mae PerkinElmer wedi lansio ymgyrch recriwtio i sicrhau dros 200 o swyddi ar gyfer staff medrus a fydd yn galluogi'r labordy i brosesu samplau o brofion Covid-19 saith diwrnod yr wythnos.
Er mwyn adeiladu tîm a fydd yn gwasanaethu fel elfen hanfodol ym maes profion Covid-19, mae'r Labordy Goleudy yng Nghasnewydd yn recriwtio pobl sydd â phrofiad o gynnal profion biolegol mewn ymchwil gwyddonol neu labordy diagnosteg, naill ai mewn amgylchedd gwaith neu astudio. Yn ogystal â rolau uwch, bydd y labordai hefyd yn cynnig cyfleoedd i raddedigion a'r rhai sy'n dilyn gyrfaoedd ym maes gwyddorau bywyd.
Meddai Miles Burrows, Rheolwr Gyfarwyddwr y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn PerkinElmer:
"Bydd y bartneriaeth yma gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galluogi tîm sy'n cael ei arwain gan PerkinElmer Genomics i ddefnyddio degawdau o brofiad ym maes sgrinio a rhaglenni genomeg clinigol o'r radd flaenaf i hybu capasiti Cymru i brofi am Covid-19 a'r rhwydwaith Labordai Goleudy.
"Bydd y labordy yn cynnwys yr offer uwch sydd eu hangen, a bydd cydweithio â phartneriaid fel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ystod y broses recriwtio yn ein helpu i fanteisio ar gryfderau a doniau arbenigol cyfunol sector gwyddorau bywyd sefydledig Cymru."
Mae PerkinElmer Genomics yn cyfuno sgrinio babanod newydd-anedig â labordy genomeg llawn, ac yn cynnig un o'r rhaglenni mwyaf cynhwysfawr yn fyd-eang ar gyfer canfod newidiadau genomeg o bwys clinigol. Gyda'i rwydwaith integredig o labordai mewnbwn uchel yn yr Unol Daleithiau, India, Malaysia, a Tsieina, mae gan PerkinElmer Genomics un o'r cronfeydd data mwyaf o amrywiadau genetig hysbys o wahanol linachau yn fyd-eang.
O dan reolaeth PerkinElmer, bydd Labordy Goleudy Cymru yn darparu rhagor o gapasiti profi ar gyfer GIG Cymru.
Sut i ymgeisio
Os ydych chi'n chwilio am sialens newydd a gyda'r profiad angenrheidiol gallwch ymgeisio am swydd yma.