Mae amddiffynwyr wyneb i ddiogelu staff y GIG, sydd wedi'u dylunio a'u cynhyrchu drwy argraffyddion 3D gan Cyflymu a thîm y Brifysgol Abertawe, wedi ennill nod diogelwch CE, sy'n golygu y gellir bellach eu cynhyrchu ar raddfeydd mwy ar gyfer ysbytai.

3D printed face mask

Mae prinder PPE (offer amddiffynnol personol) wedi bod yn broblem fawr i weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn ystod pandemig Coronafeirws.

Gan wybod y gallai eu harbenigedd helpu i gefnogi’r GIG, ymunodd y tîm Cyflymu o’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd â staff a myfyrwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, cydweithwyr o Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru gyda chefnogaeth ASTUTE 2020 drwy Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol.

Mae rhaglen Cyflymu yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n helpu statws Cymru fel canolfan ragoriaeth ar gyfer arloesedd ym maes gofal iechyd, a’r lle i fusnesau fod. 

Ar ôl gweithio ddydd a nos, gwnaethant lwyddo i greu dyluniad â ffrâm ac amddiffynnydd wyneb a llygaid plastig. Mae sbwng neopren ar ei hyd ac mae strap elastig yn cadw'r feisor yn ei le. Yna cafodd y prototeip ei gynhyrchu a'i gydosod yn y Coleg Peirianneg.

Ar ôl cael eu cadw mewn cwarantin am 72 awr, anfonwyd y feisorau i ysbytai lleol at ddibenion profion a chael adborth, a ddefnyddiwyd gan y tîm i wella'r dyluniad ymhellach.

Nawr, mae'r feisorau wedi ennill nod CE. CE yw'r talfyriad ar gyfer Conformité Européenne, sy'n nodi bod cynnyrch yn bodloni rheoliadau diogelwch gorfodol yr UE.  

Mae nod CE yn rhoi hawl i'r tîm gynhyrchu'r masgiau gan ddefnyddio argraffyddion 3D. Yn y dyfodol, y gobaith yw y gellir masgynhyrchu'r masgiau drwy chwistrellu mowldin yn hytrach na defnyddio argraffyddion 3D, diolch i'r partneriaid diwydiannol lleol FSG Tool and Die Ltd.

Dywedodd Dr Peter Dorrington, Uwch Ddarlithydd yn y Coleg Peirianneg, a arweiniodd y prosiect:

“Bydd y cynhyrchion hyn yn diogelu staff gofal iechyd ar y rheng flaen, felly roedd yn hanfodol i ni eu datblygu yn unol â'r safonau priodol.

“Mae fy ngwraig yn ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mae llawer o'n teulu a'n ffrindiau'n gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes gofal iechyd, gan beryglu eu hunain.

“Rwy'n falch iawn o waith ac ymdrech eithriadol o galed pobl ar y prosiect hwn, gan weithio gyda'r hwyr ac ar benwythnosau i sicrhau ei lwyddiant. Mae'r tîm yn cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig, staff Peirianneg a Meddygaeth, a chysylltiadau allweddol yn y diwydiant.” 

Ychwanegodd David O'Connor, Ymchwilydd Doethuriaeth Peirianneg yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru a Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu yn y Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe:

“Atebwyd y galw am dîm dylunio i ymgymryd â'r her, a hynny mewn modd brwdfrydig, cyflym a phroffesiynol gan bawb dan sylw. Rydym am helpu i annog diwydiant yng Nghymru i ailgydio yn y gwaith o gynhyrchu cyfarpar meddygol a chyfarpar diogelu personol, fel y bydd y rhain yn llai tebygol o fod yn brin yn y dyfodol.”

Meddai'r Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ASTUTE 2020, a fu'n cefnogi ac yn goruchwylio'r prosiect:

“Mae'n rhan o genhadaeth Prifysgol Abertawe i gefnogi'r gymuned rydym yn gweithio ynddi, ac mae coronafeirws wedi ein herio i ddarparu ar gyfer pobl Abertawe a Chymru. Mae Prifysgol Abertawe wedi meithrin cysylltiadau ac wedi cydweithio'n agos â'n byrddau iechyd ac â diwydiant erioed, ac mae'r rhwydweithiau hynny'n talu ar eu canfed ar adegau fel hyn.”

Meddai Dr Ceri Lynch, sy'n Ymgynghorydd Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae'r feisorau hyn yn gyfforddus, maent yn cynnig gwelededd da ac yn teimlo'n gryfach ac yn gadarnach na rhai feisorau eraill a gyflenwyd. Yn ôl y staff, maent yn teimlo'n ddiogel wrth eu gwisgo, gan werthfawrogi'r penrwymyn cymwysadwy, ac maent wedi dewis y rhain fel eu hoff feisor.”

Ywchanegodd Gwyn Tudor, Pennaeth Dros Dro Cyflymu:

Dyma enghraifft arall o sut mae'r rhaglen Cyflymu yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau sy'n amddiffyn staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yng Nghymru, ac yn tanlinellu ethos natur gydweithredol Cyflymu.

a photo of the boxed masks

 

Os oes gennych syniad gofal iechyd arloesol, yna dewch i siarad â’r Tîm Cyflymu. Maent yn awyddus i helpu eich busnes yng Nghymru i ffynnu yn y farchnad technolegau iechyd.

Gallwch gysylltu â’r tîm Cyflymu yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar 029 2046 7030 (rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg) neu anfon e-bost at accelerate@lshubwales.com i drafod eich syniad gofal iechyd arloesol diweddaraf.