Mae partneriaid y rhaglen Cyflymu yn monitro cyngor Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r Coronafirws yn agos, ac yn gweithio i leihau yr effaith y mae'r firws yn ei chael ar gyflawni'r rhaglen. Oherwydd y cyfyngiadau presennol sydd ar draws y DU, mae Cylfymu yn addasu'r ffordd y mae'n cynorthwyo busnesau ac unigolion i gyflymu eu cynhyrchion a'u syniadau.

Accelerate logo next to microscope

Rydym yn annog busnesau ac unigolion i barhau i ymgysylltu â Cyflymu. Yn ystod yr amser hwn, gofynnwn ichi gydnabod y gallai llinellau amser ac adnoddau arferol gael eu heffeithio, a gall prosesu gymryd mwy o amser nag arfer.

Mae gwybodaeth ar sut y gall y rhaglen eich cynorthwyo i gyflymu eich arloesedd neu'ch cynnyrch isod:

ATiC

Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC) yn gweithio o gartref ac yn parhau i gefnogi eu prosiectau parhaus trwy ymgymryd ag ymchwil wrth ddesg a chydweithio o bell.

Mae ATiC hefyd wrth law i gynorthwyo prosiectau gyda:

  • Ymchwil: Ymchwilio i ddeunyddiau a chynnal adolygiadau llenyddiaeth i ymchwilio i brosesau a chynnal dadansoddiad gan ddefnyddio eu systemau caledwedd a meddalwedd symudol
  • Datblygu eich syniadau: Gweithio gyda chi i ddatblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd sy'n cyd-fynd â'r Sector Gwyddorau Bywyd
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol: Mae staff profiadol ar gael i helpu i gwmpasu'ch anghenion ac i ddatblygu cynllun prosiect cydweithredol yn barod i ddechrau ar ôl i gyfyngiadau cloi gael eu codi.

Ar hyn o bryd mae ATiC yn gyrru ymchwil a chyflwyniad sawl prosiect cysylltiedig â Covid-19 gan gynnwys mwgwd awyru anfewnwthiol ac awyrydd pandemig brys.

HTC

Mae tîm y Ganolfan Technoleg Iechyd (HTC) yn gweithio gartref ac yn parhau i gefnogi eu prosiectau parhaus.

Er bod gwaith labordy yn gyfyngedig ar hyn o bryd, mae'r tîm ar gael i gefnogi prosiectau posibl gyda:

  • Cwmpasu: Mae staff profiadol HTC ar gael i ddarparu cynllunio hanfodol i fusnesau ac unigolion o amgylch gwaith arbrofol a datblygu prosiectau newydd
  • Ymchwil a dadansoddi data: Y gallu i gynnal ymchwil ac arloesi sy'n cynnwys adolygiadau llenyddiaeth, deunyddiau a phrosesau newydd a dadansoddi data o waith arbrofol a gynhaliwyd eisoes
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol: Mae nifer ymroddedig o staff ar gael i helpu i ddadansoddi'ch anghenion penodol ac i weithio gyda chi i greu cynllun busnes cadarn yn barod i ddechrau ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi.

Mae HTC yn awyddus i glywed gan bob cwmni, p'un a ydyn nhw'n chwilio am brosiect ymchwil a datblygu mewn labordy, prosiect ymchwil a datblygu desg neu weithgaredd cymorth ehangach.

Mae'r tîm hefyd yn blaenoriaethu unrhyw brosiectau arloesi cysylltiedig â Covid-19.

CIA

Mae'r Cyflymydd Arloesi Clinigol (CIA) hefyd wedi trosglwyddo i weithio gartref ac yn gwneud defnydd helaeth o dechnoleg fideo-gynadledda.

Mae un o brif ganolbwyntiau gwaith CIA yn cynnwys cyswllt â chydweithredwyr diwydiant a GIG, sydd wedi gallu parhau heb rwystr oherwydd galluoedd cynadledda fideo y tîm.

Mae rhai cydweithrediadau yn dibynnu ar ymchwil "labordy gwlyb" a / neu mae angen mewnbwn gan staff y GIG. Mae gan effaith Covid-19 ar y GIG y potensial i achosi oedi ar y prosiectau hyn. Fodd bynnag, mae'r CIA yn parhau i weithredu'n effeithiol ac yn gweithio ar nifer o brosiectau cydweithredol.

Mae'r tîm yn parhau i gwmpasu a datblygu prosiectau newydd, a bydd rhai ohonynt yn dod yn fyw yn ystod y cyfnod cloi i alluogi datrysiadau Covid-19, a bydd eraill yn cael eu hystyried i ddechrau pan godir cyfyngiadau sy'n caniatáu mynediad i gyfleusterau.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae staff Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru bellach yn gweithio gartref, ond yn parhau i gefnogi a chwmpasu prosiectau sy'n addas ar gyfer y rhaglen Cyflymu.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gael i helpu prosiectau:

  • Astudiaethau dichonoldeb y farchnad: Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gallu cyflwyno adroddiadau ymchwil i'r farchnad i asesu hyfywedd syniadau busnes, nodi darpar gystadleuwyr a chynnig gwerth unigryw yn ogystal â gwahaniaethu'r llwybr i'r farchnad
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol: Mae staff profiadol ar gael i helpu i gwmpasu'ch anghenion ac i ddatblygu cynllun prosiect cydweithredol yn barod i ddechrau ar ôl i gyfyngiadau cloi gael eu codi.

Mae staff Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd yn cefnogi’r GIG trwy nodi cyfleoedd i ddod o hyd i chyfarpar diogelu personol (PPE), dyfeisiau meddygol, datrysiadau digidol a phrofion Covid-19, a hyd yn hyn wedi prosesu dros 1,300 o ymholiadau diwydiant.

Os ydych chi'n credu y byddai'ch busnes yn elwa drwy gydweithio â Cyflymu, neu os gallwch chi helpu i gefnogi'r GIG i frwydro yn erbyn Covid-19, byddai Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wrth eu bodd yn clywed gennych chi.

Mae'r rhaglen Cyflymu  wedi ymrwymo i ddilyn canllawiau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru / Lloegr a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a bydd yn parhau i gadw at y cyngor diweddaraf.

Mae Cyflymu yn cael ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.