Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi datblygu porthol ar-lein i alluogi diwydiant i uwchlwytho cynigion o  gymorth i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i'w hystyried gan GIG Cymru.

 

New portal launched

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gyda cefnogaeth gan gwmni arloesi technolegol SimplyDo, wedi datblygu porthol ar-lein g i alluogi diwydiant i uwchlwytho cynigion o  gymorth i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i'w hystyried gan GIG Cymru.

Mae'r sefydliad wedi'i benodi fel yr unig bwynt cyswllt ar gyfer diwydiant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cymryd yr awenau ar gyfer ymgysylltu cychwynnol. Mae'n gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a’r Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol, a dylid cyfeirio pob cynnig o gymorth at y porthol. 

Dywedodd Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru:

"Rydym yn ddiolchgar i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am ddatblygu'r porthol newydd hwn ac am gymryd y pwysau o brosesu ymholiadau cychwynnol.

"Bydd yn ein galluogi I ganolbwyntio ar ddilyn yr atgyfeiriadau o'r ymarfer hwn a chaffael cynhyrchion yn gyflymach i gefnogi ein gwasanaethau rheng flaen."

Neil Frow

Bydd y porthol yn nodi busnesau priodol a all gyflenwi eitemau sydd o bosibl ar restr cynhyrchion critigol GIG Cymru. Mae'n caniatáu i fusnesau gofrestru manylion cyswllt, gwybodaeth fusnes, gwybodaeth am gynnyrch ac uwchlwytho tystiolaeth berthnasol o gydymffurfiaeth reoleiddiol cynnyrch.



Mae'r porthol ar-lein hefyd yn anfon ymlaen gynigion cymwys o gynhyrchion yn syth i Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn y fformat cywir, gyda'r wybodaeth gywir i ddatblygu cynigion yn y broses gaffael.



Gellir cael mynediad i'r porthol drwy tudalen gwe COVID-19 Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Ein cylch gwaith yw hwyluso cydweithio rhwng y diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol drwy ymateb i gynigion o gymorth gan ddiwydiant wrth i ni wynebu gofynion coronafeirws a'r pwysau sydd ar ein systemau iechyd a gofal."

Cari-Anne Quinn

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn darparu hyfforddiant a mynediad i gydweithwyr o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gwasanaethau caffael cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ESNR i’r porthol i gynyddu nifer yr arbenigwyr technoleg a chaffael sy'n canolbwyntio ar brosesu ymholiadau.



I gael rhagor o wybodaeth am y porthol a'r broses dan sylw, mae cyfres o gwestiynau cyffredin ar gael ar-lein yma.