1. Ble y dylid anfon cynigion o gymorth gan gyflenwyr?
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i goladu cynigion o gymorth i iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â'r pandemig coronafeirws.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi sefydlu porthol arloesi sy'n nodi gofynion manwl i fusnesau wneud cyflwyniad. Mae heriau penodol ar waith a dim ond yn unol â'r rhain y derbynnir cyflwyniadau.
Gall busnesau gael mynediad i'r porth drwy wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
2. Beth yw rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cymryd rhan mewn rôl hwyluso. Nid yw'n benderfynwr ac nid oes ganddo gyllideb na chyfrifoldeb am brynu cynnyrch yn uniongyrchol.
3. Beth yw'r anghenion blaenoriaethol presennol?
Mae dau brif gategori ar restr eitemau hollbwysig y GIG:
• Dyfeisiau meddygol
• Offer amddiffynnol personol
Mae GIG Cymru wedi cael llawer o gynigion ac wedi gallu sicrhau cyflenwadau sylweddol o gynhyrchion PPE a dyfeisiau meddygol penodol.
Mae'r lefelau angen yn debygol o newid wrth i fesurau ymbellhau cymdeithasol gael eu haddasu yn y dyfodol agos. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn rhai achosion, gadw manylion sefydliadau sy'n gallu cyflenwi cynnyrch a dyfeisiadau wedi'u rheoleiddio a'u hardystio'n briodol ar gyfer eu hatgyfeirio i GIG Cymru yn y dyfodol.
4. Beth yw'r gwiriadau sy'n cael eu gwneud?
Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi gan Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol (SMTL) ac maent yn cynnwys y gofynion canlynol:
• Cyn-ardystio gwybodaeth hanfodol ar gyfer gweithgynhyrchwyr sydd eisiau ymgysyllti â chaffael NWSSP a SMTL - rhanddirymiadau ac eithriadau Covid-19
• Deddfwriaeth reoleiddio
• Dosbarthu cynnyrch
• Dogfennaeth cydymffurfio rheoleiddiol
• Safonau perthnasol – tystysgrifau prawf
• Dosbarthiad Rheoliadau
5. Beth yw ymglymiad SMTL yn y broses?
Mae'r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol (SMTL) yn rhan o GIG Cymru, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, ac sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae SMTL yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Eu gwasanaeth craidd yw darparu profion a gwasanaethau technegol ynglŷn â dyfeisiau meddygol i GIG Cymru, gan alluogi gwasanaethau caffael ar gyfer GIG Cymru ac eraill yn y GIG i brynu ar sail tystiolaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan SMTL.
6. Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn gwneud cyflwyniad?
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnal rôl hwyluso – gan gynorthwyo prynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i reoli a brysbennu'r nifer fawr o gynigion cyflenwi mewn ymateb i'r argyfwng iechyd presennol.
Drwy borthol ar-lein, rydym yn coladu data i ddilysu eich sefydliad a thystiolaeth bod cynhyrchion yn cael eu rheoleiddio a'u hardystio yn ôl safonau Prydeinig cyn eu hatgyfeirio at brynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i'w hystyried.
Nid ydym yn benderfynwr ac nid oes gennym gyllideb na chyfrifoldeb am brynu cynnyrch yn uniongyrchol.
Bydd y porth ar-lein yn eich tywys drwy gyfres o gwestiynau am eich sefydliad a'r cynhyrchion sydd ar gael. Mae'r broses yn cymryd 10-15 munud i'w chwblhau.
Ar yr amod bod yr holl ddogfennau ategol wedi dod i law a'u bod yn bodloni'r meini prawf dilysu, caiff y cynnig cyflenwi ei gyfeirio at brynwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd prynwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn asesu'r cynnig cyflenwi yn unol â'u canllawiau caffael Covid-19 eu hunain, gan ymgysylltu'n uniongyrchol â chi.
Os bydd dogfennaeth ategol yn methu â bodloni'r meini prawf dilysu, byddwch yn cael eich hysbysu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Pan fod dogfennaeth gywir ar gael, bydd y cyflwyniad yn cael ei ailystyried.
Rydym ni a GIG Cymru yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.
Diolch.
7. Beth sy'n digwydd os na allaf gael mynediad i'r porth arloesi?
Mewn achosion prin, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan eich gweinyddwr TG cyn cael mynediad i'r porth. Dylid rhoi'r enwau parth canlynol i'ch gweinyddwr TG fel y gellir eu hychwanegu at "restr caniatáu": *. simplydo.co.uk, *.amazonaws.com a sdi.click
8. Os nad wyf yn gyflenwr ond yn unigolyn sy'n cynnig cymorth, pwy ddylwn i gysylltu ag ef?
Os ydych yn unigolyn ac yn meddwl y gallwch helpu yn y frwydr yn erbyn COVID-19, rydym am glywed gennych.
Cyflwynwch eich manylion ar ein gwefan lshubwales.com a gallwn helpu drwy eich cysylltu â phobl a busnesau a all eich cynorthwyo i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yng Nghymru a thu hwnt.