Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda busnes a diwydiant i gael cyflenwadau o offer hanfodol, gan gynnwys cynhyrchion glanhau a PPE ar gyfer gweithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod pandemig Covid-19.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw'r un pwynt cyswllt ar gyfer cwmnïau sydd wedi ardystio cyflenwadau cyfarpar o'r fath yn briodol. Byddwn yn asesu ac yn cadw cynigion cyflenwi wedi'u dilysu ac yn eu hanfon ymlaen at brynwyr os bydd galw am y cynhyrchion.
Os ydych yn gyflenwr PPE presennol, neu'n offer hanfodol, neu'n gallu darparu unrhyw gymorth ychwanegol naill ai ar weithgynhyrchu, ail-wneud cynhyrchion neu arloesedd, cysylltwch â ni drwy ein porth arloesi.
Ceir rhagor o fanylion isod ac maent yn cynnwys ystod o gwestiynau cyffredin os oes gennych ymholiadau pellach.
Dyfeisiau meddygol
Os ydych yn cyflenwi cynhyrchion dyfeisiau meddygol, byddem yn gofyn i chi ystyried os gallwch gyflenwi GIG Cymru.
Mae'n hanfodol bod y cynnyrch sy'n cael ei gynnig yn ddiogel ac yn gyfreithlon i ddiogelu cleifion a gweithwyr iechyd, felly mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gosod dyfeisiau meddygol ar y farchnad. Cyfeiriwch at ganllawiau cyfredol y Llywodraeth ar gyfer statws rheoleiddio offer a chanllawiau ar gyfer busnesau ac awdurdodau lleol.
Ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio â'r canllawiau hyn ar hyn o bryd, gellir cyflwyno cais am esemptiadau a llacio'r amodau i Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion gofal iechyd: devices.compliance@mhra.gov.uk
Os credwch y gall eich cwmni helpu i ddiwallu anghenion cyflenwi yn y categori hwn a'ch bod yn gallu darparu tystiolaeth bod cynhyrchion yn cael eu rheoleiddio'n briodol a'u hardystio yn ôl safonau Prydeinig, gallwch gyflwyno eich cynnig cyflenwad drwy ein porthol ar-lein.
I gael rhagor o fanylion am y camau nesaf, gymrwch gip ar ein cwestiynau cyffredin.
Rheoli heintiau
Os ydych yn cyflenwi cynhyrchion rheoli heintiau, yna byddem yn gofyn i chi ystyried os gallwch gyflenwi i GIG Cymru.
Mae'n hanfodol bod y cynnyrch sy'n cael ei gynnig yn ddiogel ac yn gyfreithlon i ddiogelu cleifion a gweithwyr iechyd, felly mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gosod y mathau hyn o gynnyrch ar y farchnad. Cyfeiriwch at ganllawiau cyfredol y Llywodraeth ar gyfer statws rheoleiddio offer a chanllawiau ar gyfer busnes ac awdurdodau lleol.
Ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn bodloni'r canllawiau hyn ar hyn o bryd, gellir cyflwyno cais am esemptiadau a llaciadau i’r Adran Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant (BEIS) OPSS.enquiries@beis.gov.uk
Gellir dod o hyd i wybodaeth am esemptiadau a llaciadau'r HSE yma.
Os credwch y gall eich cwmni helpu i ddiwallu anghenion cyflenwi yn y categori hwn a'ch bod yn gallu darparu tystiolaeth bod cynhyrchion yn cael eu rheoleiddio'n briodol a'u hardystio yn ôl safonau Prydeinig, gallwch gyflwyno eich cynnig cyflenwad drwy ein porthol ar-lein.
I gael rhagor o fanylion am y camau nesaf, gymrwch gip ar ein cwestiynau cyffredin.
Atebion digidol
Rydym yn awyddus i ymgysylltu â sefydliadau ac arbenigwyr a all helpu'r GIG yng Nghymru i ddarparu gofal iechyd drwy atebion digidol, gan gynnwys:
- Deallusrwydd Artiffisial (AI)
- Dysgu Peiriannol
- Apiau Clyfar
- Adnoddau dynol neu feddalwedd ychwanegol
- Arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
Os credwch y gall eich cwmni helpu i ddiwallu anghenion cyflenwi yn y categori hwn, gallwch gyflwyno eich cynnig cyflenwad drwy ein porthol ar-lein.
Am bob cynnig arall o gefnogaeth...
Rydym yn cyfeirio rhoddion a chynigion i gyflenwi cynhyrchion anfeddygol i sefydliadau priodol fel byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau elusennol.
Os hoffech awgrymu cefnogi GIG Cymru a sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill mewn unrhyw ffordd arall, cysylltwch â ni drwy'r ffurflen ymholiadau hon.
Mewn ymateb i Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bron i £2bn o gymorth i fusnesau yng Nghymru, yn ogystal â'r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. I gael rhagor o fanylion am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru, ewch i Busnes Cymru ar-lein.