Mae dyfodiad y pandemig Coronafeirws wedi gosod galw digynsail ar ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

personal protective equipment

Mae'r bennod newydd hon o'r podlediad Healthy Thinking ar gael yn Saesneg yn unig. Cyflwynwys y bennod gan Chris Martin, Is-gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn dwyn ynghyd banel o arbenigwyr sy'n rhoi arweiniad clir i ddiwydiant er mwyn mynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol GIG Cymru.

Rydym yn clywed gan yr arbenigwyr am yr hyn y mae angen i weithgynhyrchwyr ei ystyried er mwyn cynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion PPE i'r GIG yn effeithiol ac yn ddiogel. Mae arbenigwyr yn cynnwys partneriaid o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Lab Profi Deunydd Llawfeddygol a Chonffederasiwn GIG Cymru.

Rydym hefyd yn clywed gan Lorenzo Angelucci, Prif Swyddog Gweithredol Transcend Packaging, cwmni sydd wedi bod yn llwyddiannus yn darparu PPE i GIG Cymru yn ystod Covid-19.

Mae'n hanfodol bod y cynnyrch sy'n cael ei gynnig yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Gwrandewch ar y bennod lawn i gael gwybod mwy - ar gael yn Saesneg yn unig. 

Gwrandewch ar y bennod hon o Healthy Thinking ar

Apple Podcasts

Spotify

Google Podcasts

Beth nesaf?

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant ar ran Llywodraeth Cymru i goladu pob cynnig o gymorth i iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â'r pandemig coronafeirws. 

Mae canllawiau pellach ar gynhyrchu PPE ar gyfer GIG Cymru ar gael. Mae gennym hefyd amrywiaeth o gwestiynau cyffredin am y broses ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol GIG Cymru.