Canllawiau ar gyfer cynhyrchu PPE

Mae'n hanfodol bod y cynnyrch sy'n cael ei gynnig yn ddiogel ac yn gyfreithlon. Cyfeiriwch at ganllawiau cyfredol Llywodraeth y DU ar gyfer statws rheoleiddio cyfarpar a'r dolenni defnyddiol a dogfennau isod.

I fynd ar drywydd eich cais am farcio CE gyda BSI a hefyd dilyn y broses a fanylir yn adran 7 o ganllawiau'r OPSS.

Ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn bodloni'r canllawiau hyn ar hyn o bryd gellir cyflwyno cais am esemptiadau a llacio'r gofynion i'r Adran Busnes, ynni a strategaeth diwydiant (BEIS). Cyswlltwch â: OPSS.enquiries@beis.gov.uk.

Mae yna hefyd wybodaeth am esemptiadau a llaciadau HSE.

Dolenni a dogfennau defnyddiol 

Dim ond yn Saesneg mae'r dolenni a dogfennau hyn ar gael. 

Swyddfa diogelwch cynnyrch a chanllawiau safonau ar gyfer busnes

Manylebau technegol ar gyfer cyfarpar diogelu personol (PPE)