Wrth i 2020 ddirwyn i ben, bydd sefydliadau blaenllaw ar draws diwydiant a maes gofal iechyd yn dod at ei gilydd yn y Gwobrau Arloesi Rhithiol eleni, ddydd Mercher 2 Rhagfyr. 

MediWales Innovation Awards 2020

Bydd MediWales yn arddangos llwyddiannau anhygoel y cymunedau gwyddorau bywyd a gofal iechyd yn ei 15fed seremoni Gwobrau Arloesi flynyddol. 

 

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig dathlu ymroddiad ac arloesedd sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd, gofal a llesiant y genedl. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad digidol hwn, sy’n cynnig cyfle i rannu’r llwyddiannau trawiadol hyn â chynulleidfa ehangach. 

 

Ceir 11 categori o wobrau sy’n cwmpasu diwydiant ac iechyd a gofal cymdeithasol: 

Gwobrau’r Diwydiant 

•    Arloesi 

•    Cychwyn busnes 

•    Partneriaeth â'r GIG 

•    Allforio 

•    Llwyddiant eithriadol o ran Covid 

Gwobrau’r GIG 

•    GIG Cymru yn gweithio gyda diwydiant 

•    Effaith ddigidol 

•    Cyflymu arloesedd a thrawsnewid 

•    Gwobr partneriaeth ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r diwydiant  

 

Mae modd i bawb gofrestru ar gyfer y seremoni ar-lein, sy’n golygu bod modd i bawb sy’n bresennol gysylltu â rhanddeiliaid allweddol sy’n gweithio ar draws y sectorau gwyddorau bywyd ac iechyd a gofal cymdeithasol.  

 

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2pm, gyda rhwydweithio digidol a’r seremoni fyw yn dechrau am 2.30pm. Bydd cyfle i rwydweithio ymhellach ar ôl i’r enillwyr gael eu cyhoeddi. 

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Eleni, yn wyneb pandemig Covid-19, rydyn ni wedi gweld cyfoeth o atebion arloesol yn cael eu datblygu a’u mabwysiadu gan sectorau gwyddorau bywyd ac iechyd a gofal cymdeithasol ledled y wlad. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn arbennig o falch o fod yn gweithio gyda MediWales eto i helpu i ddathlu’r gwaith caled sy’n helpu i wella iechyd a llesiant. Rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau i gefnogi arloeswyr sydd nid yn unig yn mynd i’r afael â phroblemau heddiw, ond hefyd yn sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i pharatoi’n well ar gyfer ein hanghenion yn y dyfodol.” 

Gallwch gofrestru a chael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad sy’n rhad ac am ddim yma.