Gallwch wneud cais nawr ar gyfer Gwobrau Arloesi MediWales, sy’n cael eu cynnal am y 14eg tro eleni!
Bydd y seremoni wobrwyo flynyddol yn cael ei chynnal nos Fercher 4 Rhagfyr 2019, lle bydd dros 300 o westeion yn dathlu cyflawniadau’r GIG, cymunedau technoleg iechyd a gwyddorau bywyd.
Gyda deg o wobrau ar draws categorïau’r GIG a’r diwydiant, dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru;
“Rydyn ni wrth ein bodd o gefnogi’r gwobrau eto eleni a’r cyflawniadau eithriadol yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Fel beirniad, rydw i’n edrych ymlaen yn arw at adolygu’r ceisiadau a’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled Cymru”.
Categorïau gwobrau’r diwydiant
- Arloesi
- Cychwyn busnes
- Partneriaeth â’r GIG
- Allforio
- Cyflawniad eithriadol
Categorïau gwobrau’r GIG
- Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Diwydiant
- Effeithlonrwydd drwy Raglen Dechnoleg - Gwobr Effaith Uchel
- Arloesi o fewn GIG Cymru
- Cydweithio rhwng GIG Cymru a’r Diwydiant yng Nghymru
Sut i wneud cais?
I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â Sam Tudor yn MediWales drwy sam.tudor@mediwales.com.