Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi Sefydliad Tritech newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda’i her arloesi gyntaf y mis hwn.
Mae bwrdd iechyd gorllewin Cymru wedi darparu gwerth £80,000 o gyllid ar gyfer prosiectau buddugol a fydd yn cefnogi nifer o’i feysydd clinigol gydag atebion a ddarperir gan bartneriaid yn y diwydiant technoleg a digidol, a gyflwynir gan iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r meysydd clinigol yn cynnwys:
- Rhwydwaith o ddyfeisiau clyfar a gwrthrychau cysylltiedig gyda gwell cyfathrebu ac awtomeiddio;
- Dyfeisiau meddygol neu ofal cysylltiedig sy’n gallu cynhyrchu, casglu, dadansoddi a throsglwyddo data sy’n cyfrannu at ddatblygiadau enfawr ym maes technoleg ddi-wifr a chyfrifiadura;
- Dyfeisiau meddygol neu ofal sy’n dangos gwelliannau yn y canlyniadau i gleifion;
- Deallusrwydd Artiffisial y gellir ei ddefnyddio mewn dyfais neu system; diagnosis o glefyd y galon, canfod canser mewn mamograffeg, canfod retinopathi, delweddu meddygol o ganser yr iau, yr ysgyfaint a chanser y prostad, offer diagnostig invitro; ac
- Apiau gofal iechyd sy’n gallu helpu byrddau iechyd a sefydliadau gofal cymdeithasol i allu diwallu anghenion ein cleifion sy’n newid yn gyson.
Mae’r her yn fyw erbyn hyn a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 10 Medi 2021.
Bydd digwyddiad rhithiol yn cael ei gynnal dros gyfnod o bythefnos, gan ddechrau gyda syniadau am heriau ar 14 Medi. Bydd wyth ateb yn cael eu rhoi ar y rhestr fer i’w cyflwyno i banel ar 23 Medi 2021. Bydd pedwar cais llwyddiannus yn cael £20,000 o gyllid a chymorth Cyflymu i ddatblygu eu syniadau.
Hwb arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw Sefydliad TriTech. Yr her yw cydweithrediad rhwng y Sefydliad, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu.
Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Peirianneg Glinigol, Sefydliad TriTech:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu heriau gan ein cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydyn ni eisiau diolch i’n partneriaid cefnogi yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad deuddydd.”
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnal yr her ar eu porth arloesi. Dywedodd Dr Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Arloesi, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi her arloesi iechyd a gofal cyntaf Tritech – fel rhan o’n hymrwymiad i feithrin a datblygu diwylliant o arloesi ledled Cymru.”
Cliciwch yma i ddysgu sut mae cyflwyno her ac am ragor o fanylion am ddyddiadau allweddol ar gyfer her arloesi Tritech