Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymuno â Huma i dreialu’r gwaith o fonitro o bell cleifion sydd â phroblemau cardiaidd (methiant y galon) a hynny ar draws Cymru drwy ap yn eu cartrefi eu hunain.
Y Gronfa Atebion Digidol
Mae’r cynllun peilot hwn yn un o bum prosiect arloesi i brofi cynnyrch neu wasanaethau fel rhan o Gronfa Atebion Digidol Covid-19 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei chydlynu gan y tîm yn Ecosystem Iechyd Digidol Cymru. Mae’r gronfa’n ceisio profi a gwerthuso llwyfannau digidol, rhaglenni a thechnoleg newydd yn gyflym i benderfynu ar eu potensial a’u defnydd tymor hir o fewn Gig Cymru.
Mae prosiect Huma yn rhedeg o fis Gorffennaf 2021 tan ganol mis Hydref 2021. Mae’r canlyniadau interim eisoes wedi caniatáu i rai cleifion gael eu rhyddhau’n gynnar o’r ysbyty gan eu bod yn cael eu monitro’n ddiogel o’u cartref. Mae gwirio metrigau fel cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen isel hefyd wedi helpu’r timau clinigol i ddod o hyd i gleifion sydd angen profion ychwanegol, cymorth neu driniaeth gynharach cyn apwyntiadau sydd wedi’u trefnu.
Beth yw prosiect Huma
Cysylltodd Huma â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghanol y pandemig Covid-19 cyntaf, gyda’r cynnig i ddatblygu ap hunan fonitro methiant y galon i gleifion ei ddefnyddio o’u cartrefi. Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â’r cynllun peilot cam un sydd bellach yn fyw ac sydd eisoes yn llwyddiant.
Mae platfform monitro cleifion o bell Huma yn rhannu gwybodaeth iechyd rhwng cleifion a thimau clinigol. Mae ei dechnoleg yn cynnwys Ap Cleifion ar ffonau clyfar a Phorth i Glinigwyr ar borwyr gwe. Mae’r Ap Cleifion yn cofnodi data iechyd, fel curiad y galon, pwysedd gwaed, dirlawnder ocsigen, tymheredd a phwysau.
Yna, mae clinigwyr yn gallu adolygu’r data iechyd hwn drwy’r Porth i’w helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â chleifion, canfod arwyddion cynnar o broblemau iechyd a gweithredu arnyn nhw’n brydlon. Mae baneri coch ac ambr hefyd yn helpu timau gofal i roi blaenoriaeth i gleifion a allai fod yn gwaethygu. Mae’r tîm clinigol hefyd yn gallu ymgysylltu’n uniongyrchol â chleifion gydag adnoddau ymgynghori fideo parod.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos sut mae technoleg yn gallu gwella gofal, helpu pobl i aros yn annibynnol a rhyddhau lle yn yr ysbyty ar yr un pryd. Mae ein Cronfa Atebion Digidol yn ein helpu i gynnal treialon bach ond cyflym o dechnoleg ddigidol sy’n gallu gwella gofal a gwella sut mae ein clinigwyr yn gweithio.
“Mae ‘Cymru Iachach’, ein strategaeth ar gyfer iechyd a gofal, yn nodi bod technoleg ddigidol yn sbardun ar gyfer darpariaeth effeithiol ac effeithlon nawr ac yn y dyfodol. Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos y potensial ar gyfer casglu a rhannu data o bell rhwng cleifion a chlinigwyr. Mae’r Gronfa Atebion Digidol wedi rhoi sawl cyfle i ni dreialu technoleg ddigidol a deall beth y gellir ei gyflawni.”
Dywedodd Dr Jonathan Gledhill, Pennaeth Gofal Iechyd yn Huma:
“Ein nod yw ei gwneud yn haws i gleifion gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae ein technoleg monitro cleifion o bell eisoes wedi dyblu’r capasiti clinigol mewn wardiau Covid, wedi helpu i ganfod 10% o gleifion llawdriniaeth gardiaidd a oedd angen eu llawdriniaeth yn gynt ac wedi gwella iechyd cleifion diabetes, i gyd gan arbed amser i glinigwyr. Mae’r prosiect diweddaraf hwn gyda chleifion cardioleg yn enghraifft wych o sut mae grwpiau arloesol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos sut gall monitro cleifion o bell drawsnewid gofal iechyd ac ymchwil.”
Dywedodd Viki Jenkins, Nyrsio Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun peilot arloesol hwn ac yn edrych ymlaen at gydweithio â phawb. Mae gan adnoddau fel hyn y potensial i drawsnewid gofal iechyd yng Ngogledd Cymru, nid dim ond o ran COVID ond drwy leihau teithio i gleifion a chyfeirio adnoddau at y rheini sydd ei angen fwyaf, nawr ac i’r dyfodol.” “Yn ystod wythnos gyntaf y cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rydw i wedi adnabod cleifion sydd angen mewnbwn a newidiadau brys i’w cadw’n sefydlog ac allan o’r ysbyty”
Dywedodd Mandie Welch, ANP Methiant y Galon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eisiau bod yn rhan o’r cynllun peilot cyffrous hwn, gan ein bod ni’n cydnabod yr angen am newid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid a bod ar flaen y gad o ran newid yng Nghymru, i glinigwyr a chleifion. Hyd yma, mae 23 o gleifion wedi cael eu rhoi ar yr ap hunan-fonitro, gan roi cyfle i ni, fel clinigwyr, optimeiddio eu meddyginiaethau mewn modd amserol a diogel, nodi symptomau sy’n gwaethygu a hwyluso rhyddhau cleifion yn gynnar o’r ysbyty.”
Dywedodd un o’r cleifion:
“Mae’n fy helpu i gadw golwg ar fy mhwysedd gwaed, gan fy mod yn gallu edrych yn ôl arno a gweld y gwahaniaeth mae fy meddyginiaeth yn ei wneud, ac mae hyn yn gwneud i mi gymryd fy meddyginiaeth bob dydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun peilot, cysylltwch â digital@lshubwales.com. Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Atebion Digidol ar gael yma hefyd.