Yr wythnos hon cyhoeddodd CMR Surgical (CMR) – busnes roboteg lawfeddygol rhyngwladol – ei fod wedi ennill contract sylweddol am nifer o flynyddoedd gan GIG Cymru i weithredu System Roboteg Lawfeddygol Versius® mewn Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaethau â Chymorth Robot.

doctor with CMR Surgical robotics

Yn unol â thelerau’r contract, caiff pedair system Versius eu gosod i ddechrau mewn nifer o ysbytai yng Nghymru, a disgwylir y bydd dros 1,300 o gleifion yn elwa o’r rhaglen yn flynyddol.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno rhaglen roboteg lawfeddygol genedlaethol, mewn partneriaeth â diwydiant, â’r nod o drawsnewid ansawdd gofal a chanlyniadau i gleifion. Fel rhan o ymgyrch arloesi genedlaethol i wella canlyniadau llawfeddygol cleifion canser, defnyddir Versius i wneud triniaethau ym meysydd arbenigol y Colon a’r Rhefr, y bibell Gastroberfeddol Uchaf, Wroleg a Gynaecoleg. Darperir y gwasanaeth ym Myrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro i ddechrau, a bwriedir ehangu i fyrddau iechyd eraill yn y dyfodol.

Penodwyd CMR Surgical fel y partner diwydiant yn dilyn proses gaffael gystadleuol, yn unol â’r Rhaglen Genedlaethol Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ac â’r nod o drawsnewid y system ofal ledled Cymru. Mae’r penderfyniad yn ganlyniad proses helaeth lle cafodd CMR ei asesu ar sail ei allu i fodloni meini prawf perfformiad, ansawdd a phris. Bydd Versius yn caniatáu i lawfeddygon wneud llawdriniaethau twll clo cymhleth yn fanwl gywir.

“Mae hwn yn gam pwysig gan GIG Cymru ac yn un a fydd yn cynnig llawer o fanteision i lawfeddygon a chleifion gan ddarparu mynediad at ddatblygiadau arloesol a all newid bywydau. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r rhaglen hon a chredwn y bydd gwledydd ym mhob cwr o’r byd yn awyddus i ddilyn esiampl Cymru a gweithredu roboteg lawfeddygol gan ddefnyddio uwch-dechnoleg,”

“Hoffem ddiolch i GIG Cymru am ein dewis fel partner yn y rhaglen roboteg gyffrous hon i fynd i’r afael â’r angen mawr am well gofal a chanlyniadau llawfeddygol i gleifion canser yng Nghymru.”

meddai Dr. Mark Slack, Prif Swyddog Meddygol CMR Surgical.

“Mae Rhwydwaith Llawdriniaethau â Chymorth Robot Cymru Gyfan yn rhaglen uchelgeisiol a phwysig sy’n helpu i wella canlyniadau i gleifion a’r GIG yng Nghymru. Bydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad ag ymchwil ryngwladol ar gyfer defnyddio technegau llawfeddygol robotig. Bydd y gwasanaeth arloesol hwn hefyd yn annog staff arbenigol i ddod i Gymru i hyfforddi ac ymarfer,”

meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

“Roedd dewis robot llawfeddygol yn gam hollbwysig ar gyfer llwyddiant y rhaglen hon. Bydd Versius yn dod â manteision llawdriniaethau twll clo robotig datblygedig gan gynnwys mwy o fanwl gywirdeb, llai o boen, creithiau llai, a llai o amser mewn ysbytai fel bod cleifion yn gallu gwella’n gynt,”

meddai Jared Torkington, Clinigydd Arweiniol ar gyfer y Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaethau â Chymorth Robot.

“Mae’r rhaglen genedlaethol hon yn defnyddio’r datblygiadau arloesol diweddaraf i wella canlyniadau i gleifion ac arwain at ddefnydd effeithlon o dimau ac adnoddau llawfeddygol, sy’n hollbwysig ar hyn o bryd.”

Mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Cymru, bydd CMR yn helpu i ddatblygu rhwydwaith robotig yng Nghymru drwy helpu i roi systemau Versius ar waith, darparu hyfforddiant ac addysg ar hyd a lled y wlad, cefnogi ymchwil, a darparu cofrestrfa glinigol fyd-eang CMR er mwyn deall datblygiad canlyniadau cleifion a galluogi diogelwch cleifion.

Dywed Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru,

“Rydym yn falch o gefnogi GIG Cymru i gyflymu mynediad at lawdriniaethau robotig arloesol i gleifion ledled Cymru. Mae’r prosiect hwn gyda CMR yn enghraifft wych o’r ffordd y gall diwydiant ffurfio partneriaeth â GIG Cymru er mwyn mabwysiadu datblygiadau ar raddfa genedlaethol.”

Mae CMR wedi llwyddo i negodi tendrau cystadleuol mewn nifer o farchnadoedd, drwy fodelau prisio newydd a hyblyg wedi’u cynllunio er mwyn gwella mynediad at lawdriniaethau â chymorth robot a all drawsnewid bywydau. Mae Versius wedi’i sefydlu fel offeryn llawfeddygol gwerthfawr mewn nifer o ysbytai yn Ewrop, India, Awstralia a’r Dwyrain Canol. Mae ehangu Versius yn y GIG yn y DU yn ddatblygiad pwysig i CMR wrth iddo ddal i ddangos gwerth arwyddocaol i gleifion, llawfeddygon a systemau iechyd blaenllaw yn fyd-eang.