Wedi’i ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a'r byrddau iechyd, nod Cyflymu yn y pen draw yw creu gwerth economaidd parhaol i Gymru. Mae Cyflymu yn helpu arloeswyr yng Nghymru i drosi eu syniadau i atebion, gan eu galluogi i gael eu mabwysiadu ym maes iechyd a gofal.
Mae Cyflymu yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fanteisio ar arbenigedd academaidd, dealltwriaeth drylwyr o ecosystem gwyddorau bywyd, a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid i wireddu eu syniadau waith.
Gall Cyflymu eich helpu chi...
- Nodi cydweithrediadau ymwchil a datblygu
- Eich cysylltu ag arbenigwyr mewn technoleg iechyd, profiad y defnyddiwr ac ymgysylltu clinigol.
- Helpu i lywio'r ecosystem cefnogi gwyddorau bywyd.
“Mae datblygu ffyrdd newydd arloesol o atal, trin a gwella salwch ac afiechydon yn rhan hollbwysig o weledigaeth Llywodraeth Cymru o ddyfodol y GIG yng Nghymru. Bydd y rhaglen Cyflymu a’r gronfa canolfannau arloesedd iechyd newydd yn helpu i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau iechyd yn gyflymach i ni eu defnyddio yn ein GIG ni ac ar draws y byd.” - Vaughan Gething MS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru
Oes gennych chi syniad ar gyfer technoleg iechyd, ond yn ansicr ynglŷn â beth yw’r camau nesaf, ydych chi’n fusnes sydd eisiau ehangu ar y cynnyrch rydych yn ei gynnig, neu os tdych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi dod o hyd i ffordd glyfar o wella proses - gwnewch gais i weithio gyda ni heddiw.
Pwy all weithio â Chyflymu?
Rydym yn gweithio â mentrau o bob math a maint sy’n datblygu cynnyrch gofal iechyd arloesol a fydd yn helpu cleifion, yn gwella GIG Cymru, ac yn hybu economi Cymru. Mae’r rhaglen yn un hyblyg, a gall academyddion, partneriaid mewn diwydiant, neu glinigwyr gyflwyno ceisiadau. Nid oes mwyafswm na lleiafswm o ran maint prosiectau.
Os hoffech chi weithio â Chyflymu, bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â sawl maen prawf:
- Rhaid i fenter fod yn gysylltiedig â’ch prosiect
- Rhaid i’ch datblygiad ymwneud ag ymchwil, gan ganolbwyntio ar iechyd a gofal.
- Rhaid bod menter Gymreig yn gysylltiedig â’r prosiect
- Rhaid i’r gwaith y byddwn yn ei wneud gyda’n gilydd fod yn gydweithrediad gwirioneddol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn disgwyl cyfraniad gennych – gall hynny fod ar ffurf arian, cyfarpar, gwybodaeth neu adnoddau dynol – a fydd yn cyfateb i’n cyfraniad ni.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais heddiw!
Os ydych chi'n cwrdd â'r meini prawf uchod, gallwch wneud cais am y rhaglen Cyflymu heddiw. Os hoffech ddarganfod mwy am y rhaglen, anfonwch e-bost atom yn accelerate@lshubwales.com a bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad.
Peidiwch ag anghofio, gallwch chi hefyd gofrestru yma i dderbyn ein cylchlythyr.