Roedd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru rôl oruchwylio strategol. Mae ganddo wybodaeth eang am heriau ac anghenion y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ac mae’n cynnig cysylltiadau â’r ecosystem gwyddorau bywyd ehangach yng Nghymru.
Fe wnaethom gefnogi gyda...
- Helpu i ganfod cyfle i gydweithio ar Ymchwil a Datblygu – gyda phartner diwydiannol, academaidd neu glinigol
- Adnoddau Dynol – cyfle i weithio ag arbenigwyr ar gwmpasu prosiectau a throsglwyddo technoleg, ymchwil a datblygu, profiad defnyddwyr, dylunio cynnyrch, ac ymgysylltu clinigol
- Mewnbwn clinigol – gweithio â GIG Cymru i wella eich ymchwil a datblygu
- Cyngor ac arweiniad – mynediad at dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr mewn ystod o feysydd
- Mynediad – at Brifysgolion mwyaf blaenllaw Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol ac Ymddiriedolaethau Iechyd, cleifion, cyfleusterau, personél a chysylltiadau ehangach yn y sector gwyddorau bywyd
- Help i lywio’ch ffordd drwy ecosystem cymorth gwyddorau bywyd.