Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy’n rhoi dulliau meddwl sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a dulliau arloesi strategol, ar waith yn ein cyfleuster o’r radd flaenaf ym maes ymchwil i Brofiadau Defnyddwyr yn Ardal Arloesi Abertawe PCYDDS.

Trwy ymchwil cydweithredol, rydym wedi gweithio i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a systemau arloesol yn y sector iechyd a llesiant.
Cyflawnir Ymchwil ATiC gan ymchwilwyr profiadol ac arbenigwyr Ymchwil ac Arloesi sy’n dod o bob rhan o’r Brifysgol, gyda phenodiadau allanol a secondiadau mewnol yn ategu hyn fesul prosiect.
Mae ATiC yn ganolfan ymchwil sydd ag arbenigedd a phrofiad mewn dylunio defnyddiwr-ganolog, gwerthuso a dadansoddi profiad defnyddwyr, data 3D a chipio symudiad, yn ogystal â phrototeipio mewn ystod o ddefnyddiau.