Yn y DU heddiw mae tua hanner miliwn o blant a phobl ifanc â chyflyrau ar yr ymennydd sy’n arwain at anghenion cymorth meddygol, addysgol a chymdeithasol cymhleth. Mae Cerebra yn elusen sy'n helpu'r plant hyn a'u teuluoedd i ddarganfod bywyd gwell gyda'i gilydd.
Mae Harry Flynn wedi byw gyda’i gi cymorth Addi ers yn 9 oed. Erbyn hyn, mae’n 11, ac mae Addi wedi bod yn help mawr yn ei fywyd yn agor drysau, codi eitemau mae Harry’n eu gollwng. Ond yn bwysicach oll, mae’n ffrind go iawn i Harry ac yn ei annog i fynd tu allan am dro.
Y cwbl mae Harry eisiau ei wneud yw chwarae gydag Addi trwy daflu pêl ond oherwydd ei anabledd, nid yw’n gallu. Felly mae Dr Ross a’r tîm o Ganolfan Arloesi Cerebra wedi camu i mewn i helpu i gyd-ddylunio ffordd i Harry daflu pêl i Addi. Gyda pheth help argraffu 3D gan ATiC.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.