Partneriaid: Foot and Ankle UK Ltd a Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Nod y prosiect:  Diagnosis Rhyngweithiol Orthopedeg

Foot and Ankle Project

Trosolwg o'r prosiect

Gwelodd y prosiect Diagnosis Rhyngweithiol Orthopedeg gydweithrediad rhwng ATiC a Foot and Ankle UK Ltd o Gaerdydd, Ysbyty Spire Caerdydd, lle mae Mr Anthony Perera yn Llawfeddyg Traed orthopedig Ymgynghorol a Llawfeddyg Ffêr.

Roedd Mr Perera wedi bod yn cynnal clinigau telefeddygaeth ar gyfer cleifion wlserau traed diabetig yn ystod y cyfnod clo oherwydd Covid-19, a oedd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o dda. Amcangyfrifwyd y byddai 30% o gleifion ar ôl Covid yn parhau i gael eu hasesu yn y modd hwn.

Fodd bynnag, yr hyn sy’n rhwystro camau i weithredu clinigau o bell yn effeithiol yw'r anallu i archwilio cleifion, ac roedd angen cymorth i helpu i werthuso atebion a llwyfannau posibl a allai fynd i'r afael â'r mater sylfaenol hwn.

Y safon aur ar gyfer y lefel orau o ofal i gleifion sy'n dioddef o gyflwr sy'n bygwth aelod o’r corff megis wlserau traed diabetig yw'r Tîm Amlddisgyblaethol, sy'n cynnwys sawl maes gwahanol.

Ystyriodd y prosiect gynnig llwyfan, a fyddai nid yn unig yn gwella gofal cleifion drwy ddull Tîm Amddisgyblaethol, ond hefyd yn ei gwneud yn bosibl gwneud o bell drwy ddefnyddio technoleg.

Gwerthusodd ac ymchwiliodd y prosiect i'r dulliau a'r prosesau presennol a ddefnyddir gan arbenigwyr traed orthopedig a ffêr. Sicrhaodd y prosiect hefyd ddealltwriaeth o'r dulliau clinig a ddefnyddir ar hyn o bryd a helpu argymhellion y grŵp ar gyfer gwaith ymchwil a phrofi pellach sy'n ymwneud â diagnosis, triniaeth a monitro parhaus cleifion sy'n byw gyda chyflyrau sy'n bygwth aelodau corff.

Ei nod oedd cynyddu gallu Foot and Ankle UK Ltd i ddylunio a gwneud orthoteg bersonol i gleifion; datblygu llif gwaith gan ddefnyddio ffotogrametreg neu dechnolegau eraill sy'n datblygu; ehangu'r gwasanaeth diagnosis presennol ar gyfer triniaeth fwy rhyngweithiol a pharhaus o faterion sy'n ymwneud â ffynonellau pwysau; a chefnogi Foot and Ankle UK Ltd i werthuso profiad defnyddwyr (UX) y platfform diagnostig digidol gyda defnyddwyr terfynol.

Canlyniadau disgwyliedig

Rhagwelir y bydd y gwasanaethau newydd hyn, a ddatblygwyd drwy'r prosiect Diagnosis Rhyngweithiol Orthopedeg, yn caniatáu i fwy o gleifion gael cymorth, ac yn gwella'r amser cwblhau wrth greu orthoteg bersonol.

Mwy o wybodaeth:

Bethan Evans

Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu 

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 

E-bost: bethan.evans@pcydds.ac.uk

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner