Partneriaid:  Gwylan UK a Chanolfan  Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Amcan y Prosiect:  Datblygu system rheoli straen a phryder mewn ystafelloedd dosbarth

Working with a child

Trosolwg o’r prosiect

Gwnaeth ATiC weithio â Gwylan UK, a leolir yn Sir Benfro, i werthuso a datblygu Sleeping Lions, cynnyrch sy’n ceisio helpu plant i reoli eu hiechyd meddwl a chorfforol. Caiff hyn ei gyflawni drwy berfformio ymarferion sy’n eu helpu i ddatblygu eu hymwybyddiaeth ofalgar, lleihau eu cyfradd anadlu, cysylltu â’u cyrff ac ymdawelu.  

Yn draddodiadol, byddai plant sydd wedi’u gorlethu gan emosiynau yn cael eu symud o’r ystafell ddosbarth, sydd yn anodd i’r ysgol, ac nid yw’n helpu cyrhaeddiad addysgol y plentyn chwaith. 

Mae ysgolion yn chwilio am ffyrdd i helpu eu disgyblion ddysgu sut i reoleiddio eu hemosiynau ac ymdawelu pan fyddant yn ddicllon, wedi’u cynhyrfu neu wedi’u gorlethu gan emosiynau yn yr ystafell ddosbarth.

Mae lleihau cyfradd curiad y galon yn ffordd effeithiol iawn o dawelu rhywun. Mae wedi’i brofi bod lleihau cyfradd anadlu rhywun hefyd yn lleihau cyfradd curiad ei galon. 

Mae Gwylan UK yn datblygu darn o feddalwedd a gaiff ei ddefnyddio fel ap ar ddyfais megis llechen yn yr ystafell ddosbarth, gyda ffonau pen Bluetooth a monitor, a gaiff ei wisgo ar yr arddwrn, i fesur cyfradd curiad y galon.

Mae’n arwain plentyn sydd wedi’i gynhyrfu drwy gyfres o gemau, ymarferion a thechnegau sydd wedi cael eu cynllunio i arafu ei gyfradd anadlu, ac sy’n gadael iddo ymdawelu heb fod angen iddo ymadael â’r ystafell ddosbarth. Mae hyn yn helpu gwella lles y plentyn, lleihau’r nifer o wersi mae’n ei golli ac yn galluogi’r ysgol i gynorthwyo’n emosiynol  mwy o’i disgyblion.

Ymglymiad Accelerate

Mae Accelerate yn cefnogi cyflawniad y prosiect hwn drwy ddarparu yn ATiC arbenigedd academaidd a chyfleusterau o’r radd flaenaf.   

Gofynnodd Gwylan UK i ATiC i’w gynorthwyo drwy werthuso ei gynnyrch prototeip mewn cyflwyniad peilot yn cynnwys pobl ifanc mewn dwy ysgol yng Nghymru. Mae’r ap yn cynnig amrywiaeth o ymarferion ymgolli, gwrthdynnu ac ymlacio sy’n ennyn diddordeb y bobl ifanc ac yn eu harwain a’u darparu â man preifat sy’n eu hannog i ymlacio ac yn gwella eu lles emosiynol.  

Perfformiodd y tîm ATiC gyfres o astudiaethau mewn ysgolion er mwyn gwerthuso gallu’r cynnyrch i hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar, rheoleiddio anadlu’r plant a lleihau eu cyfradd curiad y galon i’w helpu i deimlo eu bod nhw wedi ymlacio’n fwy.  

Cynhaliodd ATiC ymchwil ymddygiadol yn yr ystafell ddosbarth a wnaeth ganolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn deall sut oedd y disgyblion yn defnyddio’r ap a’i effaith ar eu hymddygiad ac ar ddynameg yr ystafell ddosbarth.

Pan fydd disgybl yn defnyddio’r ap, bydd ATiC hefyd yn cipio llawer o ddata, megis mesurau ffisiolegol (cyfradd curiad y galon, a chyfradd anadlu), yn ogystal â data metrig digidol eraill, megis ymatebion wynebol er mwyn deall yn well profiad y defnyddiwr a sut mae’n ymgysylltu.

Gwnaeth y data a gasglwyd dystio am effeithiolrwydd y cynnyrch, yn ogystal ag argymell gwelliannau i’r fersiwn derfynol, a gaiff ei gwerthu i ysgolion a chwsmeriaid academaidd.

Canlyniadau disgwyliedig

  • Mae’n ymddangos bod ymchwil annibynnol wedi profi bod angen Sleeping Lions mewn bron pob ysgol, a bod ysgolion yn fodlon buddsoddi yn y dechnoleg hon.  
  • Yn ogystal, mae Sleeping Lions yn cyfarparu’r defnyddiwr ifanc â thechnegau trosglwyddadwy sy’n ei alluogi i reoli pryder y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
  • Mae Sleeping Lions yn ddefnyddiol ar gyfer ystod eang o oedrannau, o blant ysgolion cynradd i blant blynyddoedd cynnar ysgolion uwchradd.

Effaith

  • Mae’r cydweithrediad ymchwil hwn wedi creu PPS (cynnyrch, proses, gwasanaethau) sy’n newydd i’r cwmni; PPS sy’n newydd i’r farchnad; darparwyd cymorth anariannol; a chrewyd menter newydd.
  • Sleeping Lions bydd y cynnyrch ‘cyntaf-i’r-farchnad’, gyda llawer o bwyntiau gwerthu unigryw (USPs).
  • Mae Sleeping Lions yn gynnyrch gwir ddwyieithog, yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatblygiad y Gymraeg a darparu cymorth i bobl ifanc yn eu hiaith gyntaf, iaith eu cartrefi a’u lles.   
  • Mae’n bosibl y gallai technoleg PulseBAND Sleeping Lions, sy’n cynnwys cydrannau megis synwyryddion cardiofasgwlaidd a ffonau pen, gael ei datblygu a’i defnyddio mewn meysydd megis chwaraeon elitaidd, ac mae ganddi  gymwysiadau milwrol, diogelwch a meddygol dichonol.  
  • Mae datblygiad Sleeping Lions a PulseBAND eisoes yn darparu cyfleoedd gwaith ychwanegol ar gyfer tîm meddalwedd, tîm caledwedd a gwneuthurwyr tecstilau Gwylan UK.

 

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner