Ein cenhadaeth yw pontio’r bwlch rhwng busnesau sy’n datblygu technolegau trawsnewidiol a’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen. Drwy ddatblygu a rheoli prosiectau cydweithredol uchel eu heffaith, rydym yn cyflymu’r daith o arloesi tuag at fabwysiadu ar y rheng flaen, gan sicrhau bod datrysiadau iechyd a gofal cymdeithasol gwell yn cyrraedd pobl Cymru yn gyflymach.
Sut gallwn ni helpu?
Rydym yn dîm o reolwyr prosiectau a rhaglenni cymwysedig sydd ag arbenigedd dwfn mewn llywio’r tirweddau gwyddorau bywyd a gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn darparu’r arbenigedd a’r arweinyddiaeth prosiect sydd eu hangen i droi potensial arloesol yn realiti gweithredol. Rydym yn cefnogi’r daith drwy wneud y canlynol:
- Rheoli Prosiectau ar y Cyd: Rydym yn brif hwylusydd ar gyfer prosiectau aml-bartner, gan reoli’r cydlynu cymhleth rhwng arloeswyr yn y diwydiant a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau darpariaeth lwyddiannus.
- Llywio Llwybrau Mabwysiadu: Rydym yn helpu busnesau i ddeall a llywio’r llwybrau mabwysiadu arloesedd cymhleth yn system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
- Sbarduno Newid yn y System: Y tu hwnt i gynhyrchion unigol, rydym yn gweithio gyda’r ecosystem ehangach i gefnogi’r newidiadau strwythurol a diwylliannol sy’n angenrheidiol er mwyn mabwysiadu arloesedd yn effeithiol ac yn y tymor hir.
- Symleiddio Prosesau: Rydym yn cydweithio â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ganfod tagfeydd a mireinio prosesau mabwysiadu, fel ei bod yn haws i’r system integreiddio datrysiadau sy’n seiliedig ar werth.
- Cysylltiadau Strategol: Drwy ddefnyddio rhwydwaith cymorth helaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, rydym yn cysylltu sefydliadau â’r sgiliau a’r adnoddau cywir i fwrw ymlaen â’u datblygiadau arloesol.
Pwy sy’n gymwys i gael ein cymorth?
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid sydd wedi ymrwymo i ddatrys heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf enbyd y dydd:
- Arloeswyr ym maes Gwyddorau Bywyd: Rydym yn gweithio gyda busnesau, o rai bach a chanolig i fentrau byd-eang, sy’n datblygu datrysiadau sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion, gwella effeithlonrwydd systemau, neu ychwanegu gwerth sylweddol at economi gwyddorau bywyd Cymru.
- Partneriaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd y GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol i’w helpu i ganfod, profi a chynyddu datblygiadau arloesol sy’n gwella iechyd y boblogaeth.
- Yr Ecosystem yn Ehangach: Rydym yn cydweithio â sefydliadau academaidd a llunwyr polisïau i sicrhau bod yr amgylchedd arloesi yng Nghymru yn parhau i fod yn gefnogol ac yn integredig.