Arweinydd Prosiect
Mae Louise yn gweithio fel Arweinydd Prosiect yn y Tîm Arloesi a Mabwysiadu sy’n canolbwyntio ar Dechnoleg Ddigidol, deallusrwydd artiffisial a Roboteg. Mae ganddi 23 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Awdurdodau Lleol. Mae hyn yn cynnwys treulio tair blynedd fel Datblygwr Teleofal a Gofal wedi’i Alluogi gan Dechnoleg, rheoli teleofal a gwasanaethau monitro o bell, a darparu newid mewn gwasanaeth o fewn cymuned iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Mae gan Louise brofiad hefyd o weithio gyda diwydiant i ddylunio technoleg newydd i gefnogi heriau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg yn y gymuned drwy gynnal rhaglenni hyfforddi.