Mae ein Hadolygiad o’r Flwyddyn 2025-26 yn adlewyrchu blwyddyn o gydweithio, dysgu ac effaith ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, a’r hyn y gallwn ei gyflawni pan ddaw pobl, syniadau a sefydliadau at ei gilydd.
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ein rôl yw helpu i greu’r amodau i arloesi ym maes iechyd ffynnu. Mae hyn yn golygu gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ar draws yr ecosystem gwyddorau bywyd - gan gysylltu’r byd academaidd, diwydiant a’r GIG - er mwyn i syniadau newydd allu tyfu a chyrraedd y bobl sydd eu hangen fwyaf.
Mae’r adolygiad eleni yn rhannu sut mae’r cydweithio hwnnw’n troi’n effaith: gwella mynediad at ofal a chyflymu diagnosis, cefnogi cwmnïau i dyfu a helpu timau’r GIG a gofal cymdeithasol i fabwysiadu adnoddau a thechnolegau newydd. Yn y pen draw, mae ein gwaith yn parhau i helpu i sicrhau canlyniadau gwell - gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, a chreu dyfodol iachach a mwy ffyniannus.
Yn unol â nodau strategol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae ein huchafbwyntiau’n cynnwys: