Sut gallwn ni helpu?

Gwybodaeth am y Farchnad

Rydym yn cynnig cefnogaeth ar ffurf gwahanol fathau o adroddiadau yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu gwybodaeth ar sail tystiolaeth a fydd yn helpu rhanddeiliaid i ddeall tirwedd y farchnad, gan gynnwys gweithgarwch allweddol, tueddiadau, cyfleoedd a heriau. Byddwn yn gweithio gyda chi i gwmpasu’r adroddiad i sicrhau ei fod wedi’i deilwra i’ch anghenion. 

Math o adroddiad Dyfnder a ffynonellau data nodweddiadol Hyd (yn fras) Amser paratoi (yn fras) Dyma sydd orau pan mae angen...
Golwg Gyflym Ymchwil marchnad eilaidd sy’n ymateb yn gyflym < 15 tudalen 1-2 wythnos Gwasanaeth cyfarwyddo cyflym a chryno: pwy sy’n weithgar, beth sydd ar y farchnad, ble mae’r bylchau posibl.
Adroddiad Gwybodaeth Ymchwil eilaidd ddyfnach ynghyd â mewnbynnau cynradd dethol. Ffurf hirach a dadansoddiad manylach. 15-30 tudalen 2-6 wythnos Darlun mwy cyflawn: maint y farchnad, tueddiadau, sbardunau/rhwystrau, cyfran cystadleuwyr - a lle ar gyfer elfennau wedi’u teilwra.
Adroddiad ar y Sector Darlun cyfannol o segment cyfan o wyddor bywyd (mapio technegol ac economaidd, mapio'r farchnad a chapasiti Cymru) > 30 tudalen 4-8 wythnos Gwaith cyfeirio strategol, “cyflwr y sector” sy’n sail i bolisi, rhaglenni traws-randdeiliaid neu gynlluniau caffael mawr.
Adroddiad ar Wlad Yr un dyfnder ag Adroddiad Gwybodaeth, ond â phwyslais daearyddol (ar un genedl, neu gymharu sawl gwlad) 15-30 tudalen 2-6 wythnos Golwg fanwl ar sut mae systemau iechyd penodol yn mynd i’r afael â her, neu weithgarwch yn y farchnad mewn rhanbarth penodol.

 

Mae ein tîm Gwybodaeth y Sector yn cefnogi prosiectau ar sail y galw gan randdeiliaid, perthnasedd rhaglenni strategol, argaeledd data, a chapasiti adnoddau. Rhaid i’r gwaith arloesi neu'r prosiectau a gefnogir ganolbwyntio ar y budd i iechyd a gofal cymdeithasol, a rhaid iddynt gael effaith amlwg ar Gymru.

 

Datblygu Achosion Busnes

Rydym yn cynnig cymorth ymarferol i Fyrddau Iechyd drwy eu helpu i ddatblygu neu gryfhau eu hachosion busnes. Mae hyn yn cynnwys helpu timau i ddeall a gweithio gyda Model Pump Achos y Trysorlys neu’r templedi penodol a ddefnyddir gan fyrddau iechyd unigol Cymru. Mae ein cymorth yn cwmpasu ychwanegu gwybodaeth am y farchnad a’r system, darparu adborth adeiladol, ac adolygu drafftiau’n feirniadol fel bod achosion yn egluro’r angen yn glir, yn dangos y manteision i gleifion a’r system, ac yn cyflwyno cynllun realistig i’w fabwysiadu.