Arweinydd Gwybodaeth Sector
Mae Michael yn arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar draws GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a’r ecosystem gwyddorau bywyd ehangach. Mae cyfrifoldebau ei swydd yn cynnwys cwmpasu a rheoli’r llif o brosiectau gwybodaeth, cynhyrchu adroddiadau manwl sy’n ymwneud â’r sector, adroddiadau rhyngwladol ac adroddiadau sy’n canolbwyntio ar arloesi, a throsi tystiolaeth gymhleth yn wybodaeth glir y gellir gweithredu arni ar gyfer rhanddeiliaid. Ochr yn ochr â gwaith ymchwil ac ysgrifennu ymarferol, mae’n goruchwylio prosesau tîm, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i fireinio briffiau a sicrhau bod allbynnau’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol.
Cyn ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Ionawr 2021, cwblhaodd Michael PhD mewn Gwyddor Iechyd o Brifysgol Abertawe yn 2017 a gweithiodd fel ôl-ddoethur ar brosiectau ymchwil gan gydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.