Sut gallwn ni helpu?

  • Cefnogi rhanddeiliaid i feithrin cydweithrediadau strategol sy’n cysylltu partneriaid yn y diwydiant gyda GIG Cymru, arbenigwyr academaidd a buddsoddwyr. 
  • Creu perthnasoedd sy’n llywio ymchwil, arloesedd, a datblygiad cynnyrch, wrth helpu sefydliadau i ffurfio partneriaethau tymor hir yng Nghymru a thu hwnt. 
  • Darparu gwybodaeth am y dirwedd drwy helpu arloeswyr i ddeall beth yw blaenoriaethau GIG Cymru, yr anghenion nad yw’n cael eu bodloni, llwybrau caffael a’r llwybrau sydd eu hangen ar gyfer gwerthuso a mabwysiadu. 
  • Cynnig arweiniad, cyfeiriad a broceriaeth wedi’u teilwra i helpu sefydliadau i fireinio eu syniadau, asesu cyfleoedd yn y farchnad a graddio eu datblygiadau arloesol. 

Pwy sy’n gymwys i gael ein cymorth?

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac unigolion ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau iechyd, gofal ac economaidd.