Rheolwr Cyflawni Partneriaethau
Fel rhan o’i swydd, mae Colette yn gweithio’n agos gyda phartneriaid presennol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac yn datblygu partneriaethau newydd i barhau i gefnogi cydweithio ar draws yr ecosystem, gan arwain at rannu gwybodaeth a mabwysiadu datblygiadau arloesol ym maes iechyd ar gyfer pobl Cymru.
Gyda chefndir mewn swyddi sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ym maes gofal sylfaenol ac addysg bellach, mae Colette yn gyfeillgar, yn gefnogol, ac yma i helpu ein partneriaid i gyflawni’r canlyniadau gorau.
