Ein partneriaeth

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac M-SParc wedi cytuno ar ail flwyddyn o gydweithio yn ystod 2026/27, gan adeiladu ar weithgarwch sydd eisoes ar y gweill i gryfhau ymgysylltu, arloesi ym maes gofal iechyd a chefnogi diwydiant ar draws gogledd Cymru. 

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n canolbwyntio ar wneud cymorth arloesi yn fwy gweladwy, hygyrch a chysylltiedig ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys cryfhau cysylltiadau rhwng diwydiant, GIG Cymru, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a phartneriaid arloesi ehangach, a helpu syniadau addawol i symud gam yn nes at gael eu defnyddio yn y byd go iawn. 

Mae hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau cryfach â phartneriaid allweddol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam a sefydliadau eraill ar draws ecosystem arloesi gogledd Cymru. 

Drwy’r bartneriaeth hon, rydyn ni’n creu llwybrau cliriach i arloeswyr ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a datblygu atebion sy’n ymateb i anghenion gwirioneddol y system. 

Gwybodaeth am M-SParc

M-Sparc yw parc gwyddoniaeth dynodedig cyntaf Cymru ac mae’n cefnogi ecosystem amrywiol o gwmnïau ar draws sawl sector, ac mae technoleg feddygol yn tyfu i fod yn ffocws pwysig. 

Drwy ei rwydweithiau, ei arbenigedd a’i gymorth i entrepreneuriaid ac arloeswyr, mae M-SParc yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gryfhau’r ecosystem arloesi yng ngogledd Cymru. Mae ein cydweithio yn dod ag arbenigedd rhanbarthol M-SParc a rhwydweithiau cenedlaethol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru at ei gilydd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant ac arloesi. 

Nodau’r bartneriaeth

  • Cryfhau arloesi ym maes iechyd a gofal, ymgysylltu â systemau a chefnogi diwydiant ar draws gogledd Cymru
  • Gwella mynediad at gymorth arloesi a chreu llwybrau ymgysylltu cliriach ar gyfer entrepreneuriaid, arloeswyr, ymchwilwyr a busnesau
  • Meithrin cysylltiadau cryfach rhwng arloeswyr, GIG Cymru, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu atebion sy’n gallu gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd a diwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth