Mae Healthcare Matters yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol, darparwyr gofal ac unigolion i ddarparu gofal mwy diogel ac ymatebol. Ar ôl cael cymorth drwy’r rhaglen Iechyd a Mwy, fe wnaethon nhw greu Sentrix - menter gofal digidol bwrpasol sy’n defnyddio technoleg synwyryddion i helpu timau cartrefi gofal i adnabod risgiau’n gynharach, a chefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol.
Rhaglen cymorth arloesi ydy Iechyd a Mwy, sy’n cael ei rhedeg drwy M-SParc sy’n helpu arloeswyr iechyd a gofal cymdeithasol i brofi, mireinio a pharatoi atebion i’w mabwysiadu.
Nodau’r prosiect
- Defnyddio datrysiad monitro clyfar mewn cartrefi gofal i gefnogi gofal o ddydd i ddydd, canfod risgiau’n gynharach a helpu staff i ymateb yn gyflym i wella diogelwch, annibyniaeth a thawelwch meddwl preswylwyr.
- Cefnogi timau gofal i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio sy’n teimlo’n ymarferol, yn gynaliadwy ac y gellir ymddiried ynddynt, gan helpu i fynd i’r afael â’r pwysau ar y gweithlu a gwella diogelwch ac annibyniaeth i’r rhai sy’n derbyn gofal.
- Cyflymu datblygiad Sentrix a’i lwybr i’r farchnad drwy’r rhaglen Iechyd a Mwy, mireinio’r cynnig, profi syniadau, cael dealltwriaeth, a meithrin cysylltiadau a phartneriaethau strategol ar draws yr ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol ranbarthol.
Sut dechreuodd y prosiect
Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu pwysau o ran y gweithlu, gyda phrinder staff, mwy o swyddi gwag a mwy o alw yn rhoi straen ar dimau sydd eisoes dan bwysau. Datblygwyd Sentrix i ymateb i’r her hon, wedi’i siapio gan dros ddau ddegawd fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan wasanaeth ac sy’n seiliedig ar brofiad go iawn o ddarpariaeth rheng flaen.
Daeth y prosiect i’r amlwg drwy gyfuniad o anghenraid ac uchelgais. Dechreuodd Healthcare Matters gynnal trafodaethau strategaeth mewnol i nodi sut y gallant addasu a lle gallai arloesi gael yr effaith hirdymor fwyaf.
Roedd y cam cyntaf yn cynnwys diffinio’r heriau i fynd i’r afael â nhw: gwella diogelwch, annibyniaeth ac ymatebolrwydd ym maes gofal cymdeithasol drwy fonitro digidol ac atebion gofal rhithwir. O’r fan honno, dechreuodd y tîm fapio’r mathau o dechnoleg, partneriaethau a modelau cyflawni a allai gefnogi’r weledigaeth hon.
Fe wnaeth cymorth gan y rhaglen Iechyd a Mwy helpu i ddilysu’r cyfeiriad hwn, gan ddarparu mynediad at rwydwaith arloesi ehangach. Drwy gyfleoedd ymgysylltu cynnar, cyflwyniadau ac adborth, roedd Healthcare Matters yn gallu gwirio’r cysyniad a dechrau siapio Sentrix fel ateb annibynnol gyda photensial gwirioneddol ar gyfer graddfa.
Cafodd Healthcare Matters anogaeth, mewnwelediad a chysylltiadau gwerthfawr i archwilio atebion digidol newydd i fynd i’r afael â phwysau cynyddol wrth ddarparu gofal. Dechreuwyd treialon a thrafodaethau cam cynnar gyda darparwyr gofal lleol ac awdurdodau lleol i ddeall anghenion rheng flaen yn well, ochr yn ochr â gwaith archwiliadol gyda phrifysgolion i gefnogi datblygiad a gwerthuso yn y dyfodol.
Daeth yr hyn a ddechreuodd fel ymateb i darfu sefydliadol yn gyflym yn brosiect arloesi strwythuredig - gan osod y sylfeini ar gyfer Sentrix.
Sut mae Sentrix yn gweithio?
Fel ateb monitro clyfar, mae wedi’i ddylunio i gefnogi gofal rhagweithiol, ataliol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n cyfuno synwyryddion disylw yn yr ystafell â dangosfwrdd digidol diogel sy’n helpu timau gofal i ymateb i risg yn gynharach ac yn fwy effeithiol, a lleiaf cyfyngol.
Mae synwyryddion bach wedi’u gosod ar y nenfwd ac yn defnyddio technoleg radar yn hytrach na chamerâu neu ficroffonau. Mae hyn yn golygu nad oes data gweledol na sain yn cael ei gasglu, gan fynd i’r afael â phryderon preifatrwydd cyffredin. Yn hytrach, mae’r synwyryddion yn canfod patrymau symud a gweithgareddau allweddol fel a yw rhywun yn y gwely, yn codi, neu wedi disgyn ar sail ei ystum neu weithgarwch yn yr ystafell.
Mae’r wybodaeth o’r synwyryddion yn cael ei harddangos drwy ddangosfwrdd digidol i’r gofalwr/defnyddiwr, sydd fel arfer yn cael ei gyrchu ar dabled yn y lleoliad gofal. Gall staff gofal gael cipolwg ar nifer o ystafelloedd, gyda phob un yn cael ei gynrychioli gan eiconau syml sy’n gysylltiedig â phreswylwyr unigol. Os bydd codymau neu ddigwyddiadau risg uchel yn digwydd, tynnir sylw’n glir at yr ystafell berthnasol, o fewn lefelau rhybudd 1-4 sy’n caniatáu i staff flaenoriaethu eu hymateb. Ar ôl mynd i’r afael â digwyddiad, gall staff ddiweddaru’r system i gofnodi’r manylion a chadarnhau bod y sefyllfa wedi’i datrys.
Gellir cael mynediad at Sentrix hefyd drwy ap ar ffôn symudol, sy’n caniatáu i ofalwyr gael rhybuddion yn uniongyrchol i’w ffôn wrth symud o amgylch y cartref, er enghraifft yn ystod shifftiau nos, neu wrth gwblhau tasgau eraill.
Heriau'r prosiect
Her allweddol i Sentrix oedd llywio drwy ofod newydd. Roedd symud o ddarparu offer traddodiadol i ddatrysiadau gofal digidol a rhithwir yn gofyn am feddwl newydd, arbenigedd technegol newydd, a gwahanol fathau o bartneriaethau. Yn yr un modd â llawer o brosiectau arloesi cam cynnar, roedd ansicrwydd ynghylch y llwybr gorau i’r farchnad, y model technoleg cywir, a sut i sicrhau bod yr ateb wir yn diwallu anghenion awdurdodau lleol, darparwyr gofal ac unigolion.
Her arall oedd ymateb i newid yn gyflym. Roedd cydbwyso gofynion gweithredol o ddydd i ddydd â datblygu llwybr arloesi newydd yn her sylweddol i sefydliad prysur sy’n cael ei arwain gan wasanaeth.
Rhoddwyd sylw i’r heriau hyn drwy gydweithio, dysgu a cheisio mewnwelediad allanol. Rhoddodd y rhaglen Iechyd a Mwy anogaeth, adborth a chysylltiadau gwerthfawr a helpodd i fagu hyder a chyflymu cynnydd. Mae ymgysylltu â phrifysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid hefyd wedi bod yn bwysig wrth lunio ateb sydd wedi’i seilio ar bwysau gofal yn y byd go iawn.
Canlyniadau'r prosiect
- Mae Sentrix yn symud ymlaen o ddatblygu i brofion byw, gyda phartneriaid dosbarthu posibl sy’n cydnabod yr angen cynyddol am ofal rhithwir ac atebion monitro mwy clyfar. Mae treialon yn dechrau ar draws lleoliadau gofal yng ngogledd Cymru [Gwanwyn 2026], gyda chynllun peilot cychwynnol yn cael ei ddilyn gan un arall ar Ynys Môn. Bydd y cynlluniau peilot hyn yn profi’r dechnoleg mewn amgylcheddau go iawn, yn mireinio’r model gwasanaeth, ac yn llywio’r llwybr terfynol i’r farchnad.
- Yr effaith ar gleifion a defnyddwyr gwasanaeth fydd gwell diogelwch, annibyniaeth a sicrwydd, gan gefnogi pobl i aros gartref yn hirach gyda mwy o hyder. Ar gyfer staff a thimau gofal, mae Sentrix yn cynnig y potensial i leihau galwadau y gellir eu hosgoi, nodi risgiau’n gynharach, a rhoi amser lle mae ei angen fwyaf, gan helpu i fynd i’r afael â phwysau cynyddol ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol.
- Mae Sentrix yn cael ei ddylunio i leihau’r baich gweithredol, nid ychwanegu ato – gan osgoi haenau ychwanegol o gost, ymdrech a chymhlethdod drwy ffitio i mewn i lifau gwaith presennol a helpu timau i roi amser lle mae ei angen fwyaf.
Dywedodd Adam Spiby, Rheolwr Gyfarwyddwr Healthcare Matters:
“Mae’r rhaglen Iechyd a Mwy wedi bod yn amhrisiadwy ar gam allweddol yn ein taith, gan ddarparu anogaeth, mewnwelediad strategol a mynediad at ecosystem arloesi ehangach. Mae’r cyfleoedd fel y Panel Iechyd a Mwy wedi ein helpu i fireinio cynnig Sentrix a meithrin hygrededd.
Roedd yr ymgysylltu, y pwyntiau cyswllt amserol a’r gefnogaeth barhaus yn rhoi anogaeth i ni symud o gysyniad cychwynnol i sefydlu Sentrix fel menter gofal digidol bwrpasol. Mae’r pwynt cyswllt dibynadwy hwn drwy’r rhaglen Iechyd a Mwy wedi rhoi cipolwg, hyder a mynediad at gyfleoedd a fydd yn cefnogi ein twf a’n cydweithrediad yn y dyfodol.”
Dywedodd Claire Roberts, Unigolyn Cyfrifol, Gofal Haulfryn:
“Yn Haulfryn, rydyn ni bob amser wedi canolbwyntio ar ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle mae urddas, annibyniaeth a pherthnasoedd yn dod yn gyntaf. Rydyn ni bob amser yn chwilio am arloesedd sy’n gallu ychwanegu gwerth at y gwasanaeth. Roedd Sentrix yn teimlo’n addas oherwydd ei fod yn gweithio yn ôl yr un gwerthoedd â Haulfryn, gan gryfhau ein dull gweithredu yn hytrach na’i newid. Mae’r system yn rhoi gwell dealltwriaeth a sicrwydd i dimau heb darfu.
Rydyn ni eisoes wedi gweld sut mae’n meithrin hyder yn ein tîm, maen nhw’n gallu treulio amser lle mae’n bwysig, ac mae gan anwyliaid dawelwch meddwl ychwanegol. Mae’r system hefyd wedi ein helpu i ganfod codymau di-dyst, lle na fyddem wedi gwybod fel arall, gan roi cyfle hollbwysig i ni adolygu a rhoi’r cymorth cywir ar waith. Fel sector, mae gennym gyfrifoldeb i gofleidio technoleg mewn ffordd ystyriol. I ni, mae Sentrix yn ymwneud â gwella gofal a chymorth yn hytrach na’i ddisodli, gan gefnogi ein timau i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau.”
Manteision economaidd
Mae gan y prosiect y potensial i sicrhau effaith economaidd sylweddol ar lefel sefydliadol ac ar draws y system. Mae sefydlu Sentrix fel menter annibynnol yn agor cyfleoedd ar gyfer ffrydiau refeniw newydd, cyrhaeddiad ehangach yn y farchnad, a chreu rolau medrus ym maes iechyd digidol ac arloesedd ar draws gogledd Cymru.
Roedd mynediad at gymorth arloesi ehangach wedi helpu Healthcare Matters i ddeall blaenoriaethau rhanbarthol a chysylltu â’r rhanddeiliaid cywir. Mae cydweithio â Phrifysgol Wrecsam, wedi’i gefnogi drwy Daleb Trosglwyddo Gwybodaeth, ochr yn ochr â thrafodaethau parhaus ynghylch Partneriaeth Glyfar yn y dyfodol, wedi cryfhau ymhellach y sylfeini ar gyfer graddio Sentrix ledled Cymru a’r tu hwnt. Wrth i Sentrix raddio, rhagwelir y bydd yn arwain at ragor o fanteision economaidd drwy bartneriaethau, gweithgarwch yn y gadwyn gyflenwi, a chreu swyddi ledled Cymru.
O safbwynt y sector cyhoeddus, mae’r prosiect yn ymateb yn uniongyrchol i’r pwysau ariannol cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy alluogi canfod risg yn gynharach, lleihau digwyddiadau y gellir eu hosgoi fel codymau neu fod ar y llawr am amser hir, a chefnogi defnydd mwy effeithlon o ofalwyr a gwasanaethau cymunedol, mae gan Sentrix y potensial i gyfrannu at osgoi costau a dyrannu adnoddau’n well.
Mae budd economaidd ehangach hefyd drwy ddibynnu llai ar fodelau gofal adweithiol, llai o ymyriadau brys, a gwell cymorth ar gyfer byw’n annibynnol, gan helpu pobl i aros gartref yn ddiogel am gyfnod hirach.
Y camau nesaf
Mae camau nesaf y prosiect yn canolbwyntio ar symud o ddatblygiad cam hwyr i ddarpariaeth a graddfa strwythuredig. Mae Sentrix yn nesáu at fod yn barod ar gyfer y farchnad, a’r flaenoriaeth yw lansio’r atebion mewn ffordd drefnus a chynaliadwy, gan sicrhau eu bod yn cael eu gwreiddio’n effeithiol mewn amgylcheddau gofal ac yn cael eu cefnogi gyda’r hyfforddiant, y model gwasanaeth a’r llywodraethu cywir.
Bydd y ffocws cychwynnol ar gyflwyno ledled Cymru, gan weithio gyda chynghorau, darparwyr gofal a phartneriaid strategol i ddangos effaith a chreu safleoedd cyfeirio cryf, ochr yn ochr â datblygu partneriaethau dosbarthu i gefnogi cyrhaeddiad ehangach a chyflwyno cyson.
Bydd cydweithio â Phrifysgol Wrecsam a Phrifysgol Bangor yn parhau ac yn cryfhau drwy werthuso, cynhyrchu tystiolaeth a datblygu cynnyrch yn barhaus, gan gynnwys y posibilrwydd o symud ymlaen i Bartneriaeth Glyfar.
Wrth i’r model aeddfedu, bydd y prosiect yn edrych ar gyfleoedd y tu hwnt i Gymru, gan gynnwys twf ledled y DU a photensial allforio tymor hwy, gan leoli Sentrix fel arloesedd graddadwy yng Nghymru i wella canlyniadau gofal.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Sentrix, neu edrych ar gyfleoedd partneriaeth, anfonwch e-bost at info@sentrix.com.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac M-SParc
Rydyn ni wedi gweithio gydag M-SParc i helpu i gyflawni’r rhaglen Iechyd a Mwy yng ngogledd Cymru. Fel rhan o banel traws-sector, fe wnaethom ddarparu cyngor wedi’i deilwra i 22 o gwmnïau sy’n datblygu datblygiadau arloesol newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dewiswyd chwe chwmni i gael cymorth uniongyrchol i’w helpu i fwrw ymlaen â’u datblygiadau arloesol tuag at fabwysiadu, ac roedd Sentrix yn un ohonynt. Dros y flwyddyn ddiwethaf [2025-26], rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth ag M-SParc i gryfhau arloesedd ym maes gofal iechyd yn ogystal ag ymgysylltu a chynorthwyo entrepreneuriaid ac arloeswyr ledled gogledd Cymru. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i ganfod cyfleoedd arloesi ac i gynorthwyo â’r gwaith o ddatblygu atebion sy’n gallu gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r tu hwnt.