Sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r rhaglen
Cafodd y Gronfa Arloesi ei chreu i gefnogi fferyllfeydd cymunedol i fabwysiadu EPS yn eang drwy gyllid grant. Mae hyn wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o alluogi cyflenwyr systemau i gydymffurfio ag EPS ac anfon neges glir bod GIG Cymru eisiau gweithio gyda chyflenwyr.
Dyluniwyd y gronfa i gwmpasu’r gwaith datblygu sydd ei angen i weithredu EPS (Haen 1), cefnogi datblygiadau arloesol tuag at brosesau fferylliaeth di-bapur (Haen 2), a hwyluso integreiddio ag Ap GIG Cymru (Haen 3) i roi gwybod pan fydd presgripsiwn yn barod i’w gasglu o fferyllfa.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi gweithio’n agos ar y rhaglen bwysig hon, gan sicrhau bod y prosesau rheoli grantiau yn gadarn a bod modd eu harchwilio.
Dywedodd Laurence James, Pennaeth Rhaglenni Meddyginiaethau yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru:
“Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol wedi chwarae rhan ganolog yn rhaglen EPS, gan ymgysylltu’n llwyddiannus â chyflenwyr. Mae ein cydweithrediad â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn hynod o fuddiol - ni fyddai ein cynnydd hyd yma wedi bod yn bosibl heb y bartneriaeth gref hon.”
Fel gweinyddwyr grantiau, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dilyn proses strwythuredig a thryloyw ar gyfer asesu, dyfarnu a rheoli cyllid grant i sicrhau cydymffurfiaeth a thegwch. Mae ceisiadau’n cael eu hadolygu gan banel annibynnol i bennu cymhwysedd ac mae Cytundebau Grant yn amlinellu cerrig milltir prosiectau, gan sicrhau atebolrwydd a thryloywder.
Dywedodd Sarah Clee, Arbenigwr Cyllid Grant, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydw i’n falch o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud ar y Gronfa Arloesi. Cawsom ganlyniad rhagorol yn yr archwiliad mewnol, sy’n dangos bod gennym y systemau ar waith i reoli arian cyhoeddus. Ond y llwyddiant mwyaf yw’r hyn mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r cyflenwyr wedi’i wneud i’n helpu ni i gyrraedd y pwynt yma.”
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a chyflenwyr meddalwedd i reoli’r grant yn effeithiol, gan sicrhau bod cyllid yn cyrraedd derbynyddion i barhau â’u gwaith amhrisiadwy."
Beth nesaf?
Yn y cam cychwynnol, aeth cyflenwyr fferylliaeth gymunedol drwy broses o brofi a sicrwydd. Mae’r rhaglen, sydd bellach yn y cam gweithredu, yn canolbwyntio ar gyflwyno EPS.
Mae cyllid wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall hyd at 2025, lle bydd cyflenwyr yn gwella cynaliadwyedd a chyfleustra i ddefnyddwyr. Mae hyn yn golygu rhoi proses ddi-bapur ar waith i leihau faint o bapur sy’n cael ei argraffu mewn fferyllfeydd a gweithio ar integreiddio ag Ap GIG Cymru er mwyn gallu cael hysbysiadau gwthio i roi gwybod i gleifion pan fydd eu presgripsiynau’n barod.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd yn edrych ar gyfleoedd eraill i ddefnyddio EPS, fel mewn lleoliadau gofal brys a gofal mewn argyfwng a lleoliadau cleifion allanol mewn ysbytai.
Sut gallwn ni helpu?
Rydyn ni yma i helpu i sbarduno trawsnewid ar draws y system! Os ydych chi’n awyddus i gael gafael ar gymorth tebyg i’r hyn a amlinellir yn yr astudiaeth achos hon, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.