Mae miliwn o eitemau presgripsiwn bellach wedi’u dosbarthu yng Nghymru drwy wasanaeth digidol sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion.

Cyrhaeddodd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) – un o’r newidiadau mwyaf ers degawdau i’r ffordd y mae GIG Cymru yn rheoli presgripsiynau – y garreg filltir y mis hwn, ychydig dros flwyddyn ers lansio’r gwasanaeth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, sydd â chyfrifoldeb dros arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol ym maes iechyd:
“Mae cyrraedd miliwn o eitemau presgripsiwn electronig yn garreg filltir bwysig i GIG Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad i foderneiddio darpariaeth gofal iechyd.
“Mae’r gwasanaeth digidol hwn yn gwneud bywyd yn haws i gleifion ledled Cymru ac yn helpu ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ymroddedig i weithio’n fwy effeithlon. Mae cyflwyniad llwyddiannus y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn dangos sut rydym yn harneisio technoleg ddigidol i wella gwasanaethau gofal iechyd i bawb yng Nghymru.”
Mae EPS yn galluogi practisiau meddyg teulu i anfon presgripsiynau’n electronig o bractis meddyg teulu i fferyllfa neu ddosbarthwr, sy’n gyfleus i gleifion ac yn fwy effeithlon i staff gofal iechyd. Nid oes angen argraffu’r ffurflen werdd draddodiadol na’i chasglu o’r feddygfa, ac mae’r system yn galluogi staff i dracio lle mae presgripsiwn ar unrhyw adeg.
Anfonwyd y presgripsiwn electronig cyntaf yng Nghymru ym mis Tachwedd 2023 o Ganolfan Feddygol Lakeside yn y Rhyl, Sir Ddinbych, i Fferyllfa Wellington Road. Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi cael ei gyflwyno’n raddol ac mae bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae mwy na chwarter y fferyllfeydd yng Nghymru bellach yn defnyddio’r gwasanaeth, ac mae’r gwaith yn parhau er mwyn cyflwyno’r gwasanaeth i bob practis meddyg teulu, fferyllfa a dosbarthwr mor gyflym a diogel â phosibl.
Dywedodd Laurence James, Pennaeth Rhaglenni Moddion Digidol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC):
“Mae cyrraedd y garreg filltir o ddosbarthu miliwn o eitemau presgripsiwn gofal sylfaenol drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn llwyddiant rhyfeddol i’r rhaglen Moddion Digidol. Bu twf sylweddol o 860 o eitemau ym mis Ionawr 2024 i filiwn ym mis Chwefror 2025, sy’n dangos cyflymder y mabwysiadu a’r gweithredu.
“Mae pob system Cofnodion Meddyginiaeth Cleifion (PMR) fferylliaeth gymunedol yng Nghymru bellach wedi cwblhau’r gweithgareddau sicrwydd angenrheidiol i ddechrau derbyn presgripsiynau digidol gan bractisiau meddygon teulu. Bydd hyn yn cynyddu’r nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac yn gwneud y gwaith o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon drwy ddulliau digidol.”
Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen EPS yng Nghymru:
“Rwy’n falch iawn bod miliwn o eitemau presgripsiwn wedi’u dosbarthu yng Nghymru drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig. Mae hon yn garreg filltir arbennig ac, er bod llawer o waith i’w wneud o hyd, mae’n bwysig cofio pa mor bell rydyn ni wedi dod ers anfon y presgripsiwn electronig cyntaf yn y Rhyl.
Mae ein tîm rhaglen EPS yn gweithio’n galed iawn gyda chydweithwyr gofal sylfaenol, fferylliaeth gymunedol a phartneriaid meddalwedd i wireddu’r weledigaeth hon ledled Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gyflwyno’r buddion i gleifion ym mhob cymuned.”
Mae EPS yn rhan allweddol o’r rhaglen Moddion Digidol a reolir gan IGDC. Fe’i cefnogir gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydym yn falch iawn o ddathlu’r garreg filltir gyffrous hon wrth i’r rhaglen basio miliwn o eitemau. Ers cyflwyno’r rhaglen yn 2023, mae’r cynnydd yn dangos pŵer datrysiadau digidol i gael effaith lle mae ei angen fwyaf, gan gefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a chyflenwyr meddalwedd i reoli’r grant yn effeithiol, gan sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y derbynwyr i barhau â’u gwaith amhrisiadwy.”
Mae EPS yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim, ac nid oes angen i gleifion fynd ar-lein i ddefnyddio’r gwasanaeth. Yr unig beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yw gofyn i staff yn eu meddygfa, fferyllfa neu ddosbarthwr arferol i’w cofrestru.
Mae EPS hefyd yn dda i’r amgylchedd gan ei fod yn anelu at leihau faint o bapur sy’n cael ei argraffu gan GIG Cymru.