Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned, a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) yng Nghymru, wedi dyfarnu ei grantiau cyntaf – i ddau gyflenwr systemau digidol fferylliaeth yn y gymuned. 

CPSIF

Bydd y grantiau yn helpu cyflenwyr i ddatblygu eu systemau i ddefnyddio gwasanaeth presgripsiynau electronig a chael presgripsiynau yn ddigidol yn hytrach nag ar bapur. 

Byddant hefyd yn helpu cyflenwyr i gyflwyno newidiadau arloesol i’w systemau, a fydd yn arwain at ddosbarthu presgripsiynau yn ddi-bapur ac integreiddio ag ap newydd GIG Cymru pan gaiff ei lansio. 

PharmacyX a TITAN PMR yw’r ddau gwmni cyntaf i dderbyn grantiau, a gallant nawr ddechrau datblygu eu systemau. 

Bydd cyflwyno EPS ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru yn gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaeth yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.  

Mae’r gwaith yn rhan o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd yn galluogi’r rheini sy’n rhagnodi (fel meddygon teulu) i anfon presgripsiynau yn electronig at y dosbarthwr (fel fferyllfa gymunedol) o ddewis y claf. 

Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned ar gael i gyflenwyr systemau digidol fferylliaeth yn y gymuned yng Nghymru. Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor tan fis Hydref 2024, ond mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i ddod â’r cyfnod hwnnw i ben yn fuan os bydd yr holl gyllid wedi'i neilltuo. 

Arweinir y Gronfa gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae tair haen y gellir cyflwyno cynigion ar eu cyfer: 

Haen Un: Datblygu’r newidiadau sydd eu hangen a’u rhoi ar waith mewn systemau fferylliaeth yn y gymuned er mwyn galluogi EPS mewn fferyllfeydd yng Nghymru drwy gofnod meddyginiaeth cleifion sicr. Rhaid i gyflenwyr gwblhau’r haen hon yn llwyddiannus cyn gallu gwneud cais am gyllid haen dau a thri. 

  • Haen Dau: Galluogi prosesau di-bapur mewn fferyllfeydd yn y gymuned (heb ddiddymu hawl claf i ofyn am bresgripsiwn papur os yw’n dymuno). 

  • Haen Tri: Gallu anfon hysbysiadau gwthio i Ap GIG Cymru i roi gwybod i unigolion bod eu meddyginiaeth yn barod i’w gasglu, ynghyd â lleoliad y fferyllfa a’i horiau agor.  

Mae’r Gronfa yn agored i geisiadau gan fusnesau cofrestredig yn y DU sydd eisoes yn cyflenwi, neu sydd â’r potensial i gyflenwi, gwasanaethau digidol i fferyllfeydd yng Nghymru. Dim ond gweithgareddau sy’n ymwneud â’r nodau a esbonnir ym mhob haen sydd o fewn cwmpas y gronfa. Mae uchafswm y cyllid sydd ar gael ym mhob haen wedi'i ddiffinio ymlaen llaw, a bydd 100% o’r swm hwn ar gael am gostau refeniw y gellir dangos tystiolaeth ohonynt ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â gofynion yr haen honno. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £111,562.50 i ddatblygu eu systemau er mwyn i fferyllfeydd yng Nghymru allu defnyddio EPS.  

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod eu cynlluniau yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r cwmpas a nodir yn y ddogfen ganllawiau gyhoeddedig, sydd ar gael ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Dywedodd Sarah Taylor, Arweinydd Gwybodaeth y Sector, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Hoffem longyfarch PharmacyX a TITAN PMR am gael dyfarniad cyllid i helpu i ddarparu EPS yng Nghymru, a byddem yn croesawu rhagor o geisiadau gan gyflenwyr systemau digidol fferylliaeth yn y gymuned eraill. Mae presgripsiynau digidol yn cynnig amrywiaeth helaeth o fanteision i gleifion, i staff ac i'r amgylchedd, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r cyfle hwn am gyllid yn y dyfodol.” 

Dywedodd yr Athro Laing, Uwch Swyddog Cyfrifol y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol:

“Mae’n wych gweld y gronfa hon yn symud mor gyflym ac yn dyfarnu ei grantiau cyntaf wythnosau yn unig ar ôl iddi gael ei lansio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael ceisiadau gan ragor o gyflenwyr yn y rownd gyllido nesaf er mwyn i ni allu cyflymu’r datblygiadau mewn fferyllfeydd yn y gymuned ledled Cymru.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned ac i wneud cais am grant, ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru