Mae Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg yng Nghymru 2023 i 2025 yn nodi sut gall GIG Cymru ddarparu gwasanaethau diagnostig gwell a mwy amserol i bobl ar hyd a lled y wlad.
Mae’r strategaeth hefyd yn tynnu sylw at sut gall diagnosteg chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi ymdrechion adfer y GIG.
Mae gwasanaeth diagnostig effeithiol yn hanfodol ar gyfer darparu gofal iechyd modern. Mae angen prosesu profion, gweithdrefnau ac adroddiadau diagnostig yn gyflym er mwyn i lwybrau clinigol weithio ac er mwyn i bobl gael y driniaeth frys sydd ei hangen arnynt heb oedi. Fodd bynnag, mae ôl-groniadau mawr o driniaethau diagnostig yng Nghymru yn effeithio ar hyn, sy’n arwain at ganlyniadau gwaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg yng Nghymru 2023 i 2025 er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Y nod yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ddiagnosteg heb oedi, gyda gwasanaethau addas a digonol er mwyn helpu i lywio’r gwaith o reoli eu cyflyrau’n glinigol.
Crynodeb byr o’r strategaeth
Bydd y strategaeth hon yn cwmpasu GIG Cymru i gyd drwy ddefnyddio dull cydlynol i drawsnewid y system wrth iddi ddechrau gwella yn dilyn effaith uniongyrchol Covid-19. Gwneir hyn drwy’r canlynol:
-
Sefydlu Bwrdd Diagnosteg Cenedlaethol er mwyn darparu arweinyddiaeth genedlaethol cyfeiriadol: cefnogi darpariaeth, helpu i fonitro cynnydd ac adrodd ar y strategaeth
-
Creu capasiti diagnostig ychwanegol yn gyflym
-
Symud at ddull gweithredu cyfun yn ei gyfanrwydd ar gyfer diagnosteg
-
Sefydlu Strategaeth Genedlaethol benodol ar gyfer Trawsnewid Diagnosteg fel rhan o Weithrediaeth GIG Cymru
-
Creu awyrgylch lle mae ymchwil ac arloesi yn gwella canlyniadau, lle mae profiadau a llwyddiant yn cael ei gynyddu a lle mae’n annog partneriaethau dibynadwy â’r byd academaidd, y diwydiant, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn sbarduno buddsoddiad
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y gall hyn wneud y canlynol:
-
Lleihau’r pwysau sydd ar yr ysbytai
-
Datrys anghenion heb eu diwallu, sydd wedi cael eu gwaethygu gan Covid-19
-
Cefnogi ymyriadau cynharach ar gyfer clefydau
-
Creu systemau iechyd mwy integredig a chynaliadwy
-
Helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach
Mae sbarduno arloesedd hanfodol i’r rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan annatod o’n gwaith yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae hyn yn cynnwys technolegau sy’n cefnogi’r gwaith o ganfod a gwneud diagnosis cynharach o gyflyrau fel canser, sydd wedi’i enghreifftio drwy ein gwaith diweddar yn cefnogi’r rhaglen QuicDNA.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydyn ni’n helpu i ddatblygu arloesedd yn y gwaith o ganfod a gwneud diagnosis cynnar ym maes gofal iechyd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio’r strategaeth hon. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi GIG Cymru gydag ymdrechion hollbwysig i adfer y gwasanaeth yn dilyn Covid-19, ac yn rhoi llwyfan pwysig ar gyfer arloesi a buddsoddi mewn gwasanaethau diagnostig yng Nghymru.”
Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n gweithio gyda’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a’r diwydiant ar gael ar ein tudalennau cymorth.