Gallai prawf gwaed ar gyfer biopsi hylif arloesol i wella triniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint helpu mwy o bobl yng Nghymru. 

Senior stakeholders involved in the project in one of the labs used

Canser yr ysgyfaint yw’r pedwerydd mwyaf cyffredin yng Nghymru a’r canser sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau. Drwy gynyddu’r defnydd o fiopsi hylif anfewnwthiol (sampl gwaed) yn gynharach yn y llwybr canser, gellir gwneud penderfyniadau cyflymach am driniaethau wedi’u targedu, a darparu’r triniaethau hynny’n gynt hefyd. Bydd hyn yn gwella canlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi. 

Mae’r defnydd newydd o’r prawf gwaed yn bosibl diolch i Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan, technoleg Illumina, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a buddsoddiad gan sawl sefydliad sy’n bartneriaid yn y fenter. Gall y defnydd newydd o’r prawf gwaed ganfod marcwyr canser lluosog heb fod angen biopsi meinwe mewnwthiol. 

Bydd yr astudiaeth newydd hon yn gwerthuso manteision biopsi hylif pan fo amheuaeth bod gan rywun ganser yr ysgyfaint. Bydd yn edrych ar sut y gall ei ddefnyddio’n gynharach yn y broses ddiagnostig wella a chyflymu diagnosis a lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth. Bydd hefyd yn helpu i ddeall sut y gellir defnyddio’r dechnoleg hon pan fo amheuaeth bod gan rywun fathau eraill o ganser. 

Mae disgwyl i’r defnydd o fiopsi hylif ym maes meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a rhoi dealltwriaeth well o salwch, gwella canlyniadau cleifion a thrawsnewid bywydau. Yn y dyfodol, mae ganddo’r potensial i ddarparu ffordd syml, hwylus a dibynadwy o archwilio canser a amheuir a ffordd lai mewnwthiol o fonitro ar gyfer canser yn dychwelyd. 

Mae profi’r defnydd o dechnolegau newydd megis biopsi hylif yn un enghraifft o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu trawsnewid gwasanaethau diagnostig yng Nghymru, fel y nodir yn Strategaeth Ddiagnosteg Cymru sy’n cael ei lansio heddiw [25 Ebrill]. Bydd y strategaeth hon yn darparu gwasanaethau i leihau amseroedd aros profion diagnostig, gwella canlyniadau cleifion, a chefnogi’r gweithlu diagnostig ar draws ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. 

Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae triniaethau fel hyn yn golygu y gellid canfod canser a’i drin yn gyflymach, mewn modd llai ymwthiol a gyda gwell targedu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn un o’r cydweithwyr traws-sector sy’n cyfrannu at y prosiect yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld effaith y gwerthusiad ar ganlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi canser yn y pen draw.” 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:  

“Mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran sut rydyn ni’n integreiddio profion genomig mewn gwasanaethau iechyd i chwyldroi gofal iechyd. Fe allai biopsi hylif roi manteision gwirioneddol i gleifion yng Nghymru ac achub bywydau drwy’n helpu ni i ganfod a thrin canser yn gynharach.  

“Dyma enghraifft allweddol o sut all gweithio mewn partneriaeth ar draws sawl sector gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwell. Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i adfer a thrawsnewid gwasanaethau drwy Strategaeth Ddiagnosteg Cymru.” 

Dywedodd Craig Maxwell, cynrychiolydd cleifion y grŵp llywio QuicDNA:  

“Cefais ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint EGFR nad oedd modd ei wella na’i drin drwy lawdriniaeth pan o’n i’n 40 oed. Mae gen i felly brofiad uniongyrchol o’r llwybr diagnostig ar gyfer canser yng Nghymru. Mae Cymru mor ffodus o’i nyrsys a’i meddygon ardderchog sy’n ein cefnogi ar y llwybr hwn. Mae cyfrifoldeb arnon ni i gyd i wneud yn siŵr bod y dechnoleg orau a diweddaraf ar gael iddyn nhw i gynnal y llwybr diagnostig. Mae’r astudiaeth glinigol hon yn gam mawr ymlaen i helpu cleifion canser, fel fi. 

“Ar ôl i fy nhiwmor gael ei ddarganfod, cymerodd hi 72 o ddiwrnodau anodd, llawn straen, i wybod pa fath o ganser oedd gen i. Bydd y dechnoleg newydd hon yn helpu i roi canlyniadau’n gyflymach, gan alluogi cleifion canser i gael triniaeth yn gynharach a’u helpu i gynllunio, gyda’u teuluoedd, at y bywyd newydd sydd o’u blaenau. Rhaid inni sicrhau bod y profion arloesol newydd hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac y gall ein nyrsys a’n meddygon ardderchog ddefnyddio’r dechnoleg hon i’w helpu nhw i’n helpu ni.” 

Dywedodd Gareth Healey, Pennaeth Datblygiad Economaidd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae gan y dechnoleg hon y potensial i drawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru. Felly, rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen hon: darparu cymorth rheoli prosiectau a helpu i gynnull partneriaid traws-sector i yrru popeth yn ei flaen.” 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwn ni helpu. Cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi