Trydydd parti

Positive Solutions yw’r cyflenwr systemau fferyllol diweddaraf i ddatblygu a phrofi technoleg i helpu i gyflwyno Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru. 

A wall of medicine boxes in a pharmacy

Mae Positive Solutions, y mae ei feddalwedd yn cael ei defnyddio mewn fferyllfeydd ledled Cymru gan gynnwys Well a Morrisons, yn datblygu ei system i’w galluogi i fod yn barod i dderbyn presgripsiynau’n ddigidol yn hytrach nag ar bapur.

Mae'r feddalwedd wedi cwblhau'r cam amgylchedd profi a chyn bo hir bydd yn dechrau ar gyfnod profi mewn fferyllfa yn ne Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, caiff ei gyflwyno mewn fferyllfeydd partner fel rhan o gyflwyno Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) fesul cam ledled Cymru o haf 2024.

Mae cyflwyno EPS ledled Cymru yn galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau yn electronig i ddewis y claf o fferyllfa gymunedol, heb yr angen am ffurflen papur gwyrdd.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Uwch Berchennog Cyfrifol y Rhaglen Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol: “Mae'n wych dechrau’r cyfnod prawf hwn gyda Positive Solutions. Mae gan y cwmni hanes hir a dibynadwy o gefnogi fferyllfeydd yng Nghymru ac mae’n gweithio'n gyflym i'n helpu i ddarparu EPS.

“Mae technoleg Positive Solutions yn pweru llawer o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at y manteision y bydd ei feddalwedd EPS yn eu rhoi i gleifion, staff fferyllol a meddygon teulu.”

Positive Solutions o Swydd Gaerhirfryn yw’r trydydd cyflenwr systemau fferylliaeth i ddatblygu a phrofi ei system i fod yn barod ar gyfer EPS yng Nghymru, yn dilyn Invatech (Titan PMR) a Boots.

Dywedodd Steve Russell, Prif Swyddog Masnachol Positive Solutions: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda GIG Cymru i gefnogi’r prosiect i ddigideiddio presgripsiynau a darparu EPS ledled Cymru.

“Mae gennym hanes hir o yrru arloesedd i fferyllfeydd cymunedol ac rydym yn gyffrous am y manteision a fydd yn cael eu darparu i’n cwsmeriaid fferyllol a’u cleifion. Edrychwn ymlaen at gyflwyno EPS ar draws ein holl gwsmeriaid fferylliaeth yng Nghymru yn fuan.”

Anfonwyd y presgripsiwn electronig cyntaf yng Nghymru o Ganolfan Feddygol Lakeside i Fferyllfa Ffordd Wellington, y Rhyl, ym mis Tachwedd 2023, gan ddefnyddio system GP EMIS Group a system fferyllfa Titan Invatech. Mae'r ddwy system bellach wedi pasio profion sicrwydd.

Yn gynharach y mis hwn, cleifion yng Nghonwy oedd yr ail gymuned yng Nghymru i ddefnyddio EPS, gyda phresgripsiynau yn cael eu hanfon o Feddygfa Plas Menai Llanfairfechan i ddwy fferyllfa, sef Boots yn Llanfairfechan a Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr. Mae Boots yn profi ei system fferyllfa ei hun, tra bod Gwynan Edwards yn defnyddio Titan.

Cafodd Positive Solutions arian gan Gronfa Arloesi Systemau Fferylliaeth Gymunedol i ddatblygu ei dechnoleg. Dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth â’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol ac ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gael i gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol digidol yng Nghymru. 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae cyfranogiad Positive Solutions yn ein Cronfa Arloesi Systemau Fferylliaeth Gymunedol yn nodi cam sylweddol arall yn ein taith tuag at sefydlu gwasanaeth presgripsiynau electronig cynhwysfawr yng Nghymru.

“Mae hyn yn tanlinellu ein hymdrech ar y cyd i wneud systemau fferylliaeth yn fwy effeithlon, yn haws i’w defnyddio ac yn ecogyfeillgar i staff a phobl Cymru. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i fod yn ymroddedig i feithrin arloesedd a chydweithio er mwyn gwella darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru."

Mae cyflwyno Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, sy’n dwyn ynghyd y rhaglenni a’r prosiectau a fydd yn sicrhau manteision dull presgripsiynu digidol llawn ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru.

Bydd hefyd yn helpu’r amgylchedd, gan leihau’r 40 miliwn o ffurflenni presgripsiwn papur sy’n cael eu hargraffu bob blwyddyn yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru i gael cylchlythyr Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ewch i https://igdc.gig.cymru/systemau-a-gwasanaethau/portffolio-trawsnewid-gweinyddu-meddyginiaethaun-ddigidol/ neu cysylltwch â DMTP.Comms@wales.nhs.uk neu rebecca.lees@wales.nhs.uk / 07950 060613.