Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Dau safle yn y Rhyl ydy’r cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru. 

Fferylliaeth Gymunedol

Mae hyn wedi cael ei gefnogi’n ariannol gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol – sydd wedi cael ei greu a’i reoli gan ein sefydliad ni mewn partneriaeth â Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol (DMTP), sydd wedi darparu grantiau i gyflenwyr systemau fferyllol. 

Cleifion yn y Rhyl yw’r cyntaf yng Nghymru i elwa o wasanaeth presgripsiynau electronig newydd (EPS), sy’n galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau’n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen ffurflen bapur. 

Mae’r gwasanaeth newydd yn golygu bod presgripsiynu a dosbarthu meddyginiaethau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon. 

Mae’r gwasanaeth yn dod â manteision i gleifion, meddygfeydd, fferyllfeydd a’r amgylchedd, gan arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni papur rhag cael eu hargraffu bob blwyddyn. 

Gellir olrhain presgripsiynau o’r feddygfa i’r fferyllfa ac ni fydd angen i gleifion ymweld â’r feddygfa i nôl presgripsiwn rheolaidd oherwydd bydd yn cael ei anfon yn uniongyrchol i’r fferyllfa o’u dewis nhw. Bydd hyn hefyd yn symleiddio’r broses ad-dalu i fferyllfeydd cymunedol. 

Mae ein sefydliad ni wedi chwarae rhan hollbwysig yn y broses o roi hyn ar waith drwy gydlynu’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol – lle rydym wedi rheoli’r broses ariannu a dyfarnu. Mae hyn wedi digwydd ar y cyd â Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol, sy’n cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 

Mae hyn wedi helpu cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol i ddatblygu eu systemau i ddefnyddio EPS ac i dderbyn dulliau trosglwyddo presgripsiynau’n electronig. Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol hefyd yn galluogi ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol i ddarparu datblygiadau arloesol a fydd yn arwain at ddosbarthu’n ddi-bapur ac integreiddio ag ap newydd GIG Cymru. 

Mae’r gwasanaeth newydd yn y cam profi byw ar hyn o bryd, cyn ei gyflwyno’n raddol ledled Cymru mor gyflym a diogel â phosibl o fis Ionawr 2024 ymlaen. 

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn: 

“Mae’n wych gweld yr effaith uniongyrchol y mae Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol yn ei chael ar fferyllwyr a phobl sy’n cael presgripsiynau yng Nghymru. Rydym yn falch iawn fod y gwaith o’i gyflwyno wedi dechrau a’n bod yn gallu sicrhau bod modd presgripsiynu mewn ffordd fwy effeithlon yn amgylcheddol ac yn economaidd ar yr un pryd â gwneud y broses yn haws i bobl sy’n cael presgripsiynau o’u fferyllfeydd lleol.” 

 Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS: 

“Rydym ar fin gweld trawsnewidiad digidol cyffrous a fydd yn newid yn llwyr y ffordd y caiff presgripsiynau eu rheoli ym maes gofal sylfaenol, gan symleiddio proses sydd heb newid ers degawdau. 

“Bydd presgripsiynau electronig yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r GIG ac i gleifion, ac mae hyn yn garreg filltir bwysig yn ein taith tuag at ddigideiddio pob presgripsiwn ym mhob lleoliad gofal iechyd ledled Cymru."

Dysgwch fwy am Gronfa Arloesi Systemau Fferylliaeth Gymunedol.