Mae tri chyflenwr system arall wedi cael cymeradwyaeth i gyflwyno eu meddalwedd mewn fferyllfeydd cymunedol.
Cymerwyd cam mawr ymlaen o ran darparu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, gyda thri chyflenwr system arall yn cael cymeradwyaeth i gyflwyno eu meddalwedd mewn fferyllfeydd cymunedol.
Mae’r cwmnïau technoleg gofal iechyd Cegedim Rx, EMIS a PharmacyX i gyd wedi datblygu a phrofi systemau sy’n gallu derbyn presgripsiynau electronig yng Nghymru. Yn dilyn monitro cadarn, bydd unrhyw fferyllfa sy’n defnyddio meddalwedd y cyflenwyr yn gallu defnyddio EPS, ar yr amod eu bod wedi cwblhau nifer o weithgareddau parodrwydd.
Mae’r gymeradwyaeth yn golygu bod pob un o’r saith cyflenwr system fferylliaeth sydd â chontractau gyda fferyllfeydd yng Nghymru bellach yn cefnogi EPS yma, sy’n garreg filltir arwyddocaol wrth symud o broses presgripsiynau papur i system ddigidol.
Mae EPS yn gwneud pethau’n haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a staff gofal iechyd, yn ogystal â helpu’r amgylchedd gan ei fod yn lleihau faint o bapur rydym yn ei ddefnyddio.
Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig Gofal Sylfaenol:
“Am ffordd wych o ddechrau 2025, gyda thri chyflenwr fferyllol arall yn cael eu cymeradwyo i helpu i gefnogi’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru.
Bu cydweithio go iawn rhwng cyflenwyr, ein tîm rhaglen EPS, fferyllfeydd cymunedol, practisiau meddygon teulu a phartneriaid eraill i gyrraedd y garreg filltir hon. Mae EPS yn cynnig nifer o fanteision i gleifion yng Nghymru ac rydw i wrth fy modd y bydd nawr yn cyrraedd mwy o ardaloedd yn y misoedd nesaf.”
Profodd EMIS ei system fferyllfa ProScript Connect yn fferyllfeydd G. Rowe yn Nantymoel a Chwm Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Meddygfa Nantymoel. Bellach gellir defnyddio’r feddalwedd nid yn unig mewn fferyllfeydd sy’n defnyddio ProScript Connect ond hefyd mewn rhai sydd â chontract gydag AAH.
Dywedodd Sima Jassal, Cyfarwyddwr Clinigol Fferylliaeth yn EMIS:
“Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio ar y cyd nid yn unig ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ond hefyd gyda’r timau yn fferyllfeydd G. Rowe. Mae darparu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i’n defnyddwyr ProScript Connect ledled Cymru yn gam pwysig arall ymlaen i fferylliaeth gymunedol - gan wneud gweinyddu presgripsiynau yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel i gleifion.”
Dywedodd Paul Mayberry, Cyfarwyddwr PharmacyX:
“Rydym wrth ein bodd bod PharmacyX, yr unig ddarparwr system fferylliaeth o Gymru, wedi ennill achrediad EPS ac wedi profi ein meddalwedd yn llwyddiannus yn Fferyllfa Health Plus ym Mlaenafon, mewn partneriaeth â Meddygfa Blaenafon.
Mae hwn yn gam hollbwysig i PharmacyX a fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru wrth i ni fabwysiadu dull mwy effeithlon, mwy diogel ac ecogyfeillgar o reoli presgripsiynau. Fel datrysiad o Gymru, mae PharmacyX mewn sefyllfa unigryw i gwrdd ag anghenion fferyllfeydd Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi eu taith i’r dyfodol digidol cyffrous hwn.”
Mae meddalwedd Pharmacy Manager Cegedim Rx yn cael ei ddefnyddio mewn dwy gangen o Fferyllfa Nelson yn Nhredegar, Blaenau Gwent, fel rhan o’r broses brofi.
Dywedodd Tracey Robertson, Cyfarwyddwr Cynnyrch a Thechnoleg Cegedim Rx:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru trwy ein platfform Pharmacy Manager.
Mae manteision y rhaglen EPS yn bellgyrhaeddol. Mae’n galluogi fferyllfeydd a phractisiau meddygon teulu i weithio’n fwy effeithlon, a hefyd yn galluogi cleifion i gael mynediad hawdd a chyfleus i’r gofal sydd ei angen arnynt.”
Cefnogwyd yr holl gyflenwyr systemau gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae’r garreg filltir hon yn drobwynt ar gyfer arloesi ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Gyda’r holl gyflenwyr sydd ag ôl troed yng Nghymru bellach yn gymwys ar gyfer cyllid Haen 1, rydym yn symleiddio systemau fferylliaeth i fod yn fwy effeithlon a chyfleus, wrth feithrin system gofal iechyd fwy cynaliadwy.
Rydym yn falch o gefnogi’r cynnydd hwn drwy’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol, gan yrru arloesi sy’n gwella gofal cleifion a staff gofal iechyd yn uniongyrchol ledled Cymru. Camp wych a’r dechrau gorau posib i 2025!”
Ers lansio EPS ym mis Tachwedd 2023, mae mwy na 700,000 o eitemau presgripsiwn wedi’u dosbarthu drwy’r gwasanaeth. Mae cleifion mewn ardaloedd o bob bwrdd iechyd yng Nghymru yn elwa o’r gwasanaeth, ac mae ar gael mewn 25 o bractisiau meddygon teulu a mwy na 150 o fferyllfeydd. Mae’n cael ei gyflwyno mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.
Y llynedd, cwblhaodd Invatech, Boots, Positive Solutions a Clanwilliam y gwaith o ddatblygu a phrofi eu systemau meddalwedd yn llwyddiannus, tra bod Apotec wedi ymuno â’r broses sicrwydd.
Mae EPS yn rhan allweddol o’r rhaglen drawsnewid Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac mae’n gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.