Mae gwasanaeth sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a staff gofal iechyd yn dathlu ei flwyddyn gyntaf yng Nghymru.
Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ar 17 Tachwedd 2023. Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi’i gyflwyno i rai cleifion ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda channoedd o filoedd o bresgripsiynau’n cael eu dosbarthu heb y ffurflen bapur draddodiadol.
Anfonwyd y presgripsiwn electronig cyntaf yng Nghymru o Ganolfan Feddygol Lakeside i Fferyllfa Wellington Road, carreg filltir a nodwyd gan ddigwyddiad lansio gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Eluned Morgan AS.
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyflwyno’r gwasanaeth i’r practisiau meddygon teulu a’r fferyllfeydd cymunedol cyntaf ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Yn ogystal, mae nifer o gontractwyr cyfarpar fferyllol yng Nghymru yn cynnig y gwasanaeth i gleifion sy’n cael dyfeisiau ac offer meddygol ar bresgripsiwn.
Bydd y broses o gyflwyno’r gwasanaeth yn parhau ledled Cymru fesul cam, gyda phractisiau meddygon teulu a fferyllwyr eraill yn ymuno mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.
Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen EPS yng Nghymru:
“Mae EPS yn cynnig buddion i gleifion, rhagnodwyr, fferyllfeydd cymunedol a dosbarthwyr eraill. Mae hefyd yn dda i’r amgylchedd gan ein bod yn anelu at leihau faint o bapur sy’n cael ei argraffu gan GIG Cymru.”
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn hynod falch o weld pobl ledled Cymru yn elwa o EPS. Byddwn yn parhau i weithio mor galed ag y gallwn ni i’w gyflwyno i bob cymuned cyn gynted â phosibl.”
Mae EPS yn rhan allweddol o raglen drawsnewid genedlaethol Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac yn fwy effeithlon a diogel. Gellir olrhain presgripsiynau o’r practis i’r dosbarthwr, sy’n golygu y gall staff weld ble mae presgripsiwn ar unrhyw adeg.
Nid oes angen i gleifion sydd am ddefnyddio EPS fynd ar-lein na defnyddio gliniadur neu ffôn clyfar. Yr unig beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yw dweud wrth staff yn eu fferyllfa neu ddosbarthwr o ddewis yr hoffen nhw ddefnyddio’r gwasanaeth.
Anfonwyd y presgripsiwn electronig cyntaf gan ddefnyddio meddalwedd a ddatblygwyd gan y cyflenwr systemau Invatech, gyda chymorth gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF). Darperir y gronfa ar y cyd gan IGDC a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd cyllid i saith o gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol, gydag un cyflenwr arall yn datblygu EPS heb wneud cais i’r gronfa. Mae Invatech, Boots, Positive Solutions a Clanwilliam wedi’u cymeradwyo’n llawn i dderbyn presgripsiynau yn ddigidol oddi wrth bractisiau meddygon teulu, tra bod EMIS, Pharmacy X, Cegedim ac Apotec wrthi’n mynd drwy’r broses sicrwydd ar hyn o bryd.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Wrth edrych yn ôl dros flwyddyn gyntaf y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru, rydym yn falch o sut mae EPS wedi trawsnewid rheolaeth a mynediad at bresgripsiynau. Hyd yma, mae mwy na 290,000 o eitemau presgripsiwn wedi cael eu dosbarthu gan ddefnyddio EPS yng Nghymru. Yn gynharach yr wythnos hon, cyrhaeddodd tîm EPS rownd derfynol gwobr ‘Tîm y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU am ei waith yn cyflwyno un o’r newidiadau mwyaf i ragnodi yng Nghymru ers degawdau.
“Yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym yn parhau i ymrwymo i gefnogi’r datblygiadau hyn, gan feithrin profiad gofal iechyd mwy effeithlon i bawb, a chynnig buddion i gleifion a staff gofal iechyd ledled Cymru."
I ddarganfod mwy ewch i visit IGDC.